Mae Darren Millar, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd, wedi annog Swyddfa'r Post i ailystyried ei phenderfyniad i gau ei changen yn Llangernyw yn barhaol.
Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi ddydd Gwener, er bod Swyddfa Bost Llangernyw eisoes wedi bod ar gau ers 14 Mai eleni, yn dilyn ymddiswyddiad postfeistr y gangen.
Roedd Swyddfa'r Post yn cyfiawnhau'r penderfyniad i gau ar sail "sicrhau bod ein cyllid a'n hadnoddau yn cael eu dyrannu i ddarparu’r budd mwyaf posibl i'r holl gwsmeriaid."
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Darren:
"Mae angen i'r rhai sy'n gyfrifol feddwl eto cyn dal ati a chau'r gangen hon. "Mae Swyddfa'r Post yn rhan bwysig o gymuned Llangernyw a'r aneddiadau cyfagos ac mae’n helpu i sicrhau hyfywedd y siop leol, felly bydd cau'r swyddfa bost yn ergyd drom i'r ardal.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i bob busnes weithredu o fewn ei fodd, ond nid yw hyn yn gwneud dim i leihau'r effaith y bydd y cynllun hwn yn ei chael ar y gymuned." Bydd preswylwyr heb geir yn cael eu taro'n arbennig o galed, o ystyried natur gyfyngedig gwasanaethau bysiau i'r pentrefi lle mae’r Swyddfeydd Post agosaf nesaf.
"Mae hefyd yn ymddangos yn anodd cyfiawnhau cau'r Swyddfa Bost hon, pan fo'r rheiny mewn pentrefi o faint tebyg, neu hyd yn oed pentrefi llai yn y rhanbarth, yn parhau ar agor."