Mae Darren Millar, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Gogledd, wedi galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i adolygu'r trefniadau ar rwydwaith bysiau TrawsCymru ar ôl i deithwyr gael eu gadael heb gludiant oherwydd bod yr amserlenni’n afrealistig.
Mae bysiau TrawsCymru’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw'n cael eu disgrifio fel rhai sy'n darparu “cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i lawer o gymunedau ledled Cymru, gan integreiddio â thaith ar y rheilffyrdd”.
Fodd bynnag, mewn cyfarfod llawn diweddar yn y Senedd, cododd Darren bryderon bod amserlenni newydd wedi gwneud bysiau'n annibynadwy, gan achosi i deithwyr golli cysylltiadau, a rhoi gyrwyr dan bwysau annioddefol.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, ynghylch y methiannau dywedodd Darren:
“Cafodd newidiadau eu gweithredu ar rwydwaith [TrawsCymru] ym mis Tachwedd y llynedd, yn dilyn adolygiad gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Newidiwyd llawer o'r amserlenni o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw. Cafodd rhai bysus eu tynnu oddi ar rai llwybrau a gosodwyd systemau deallusrwydd artiffisial newydd ar fysiau er mwyn monitro ffocws gyrwyr ar y ffordd.
“Mae teithwyr yn cysylltu â mi sy'n dweud wrthyf fod yr amserlenni’n afrealistig, nad oes digon o ystyriaeth ar gyfer tagfeydd, na'r terfynau cyflymder newydd o 20 mya mewn rhai ardaloedd, a bod llawer o bobl yn colli eu cysylltiadau ac yn aml mae teithwyr yn cael eu gadael heb gludiant.
“Nawr, yn amlwg, mae angen system trafnidiaeth bysiau ddibynadwy sy'n cysylltu rhannau o gefn gwlad Cymru â chytrefi trefol, ond mae angen i ni adolygu'r trefniadau ar rwydwaith TrawsCymru i sicrhau bod teithwyr yn cael y gwasanaethau maen nhw’n eu haeddu, ac nad oes pwysau gormodol ar yrwyr, sy'n wynebu'r heriau o orfod gweithio yn ôl yr amserlenni afrealistig hyn.
“Dywedwyd wrthyf hefyd fod y system Deallusrwydd Artiffisial - mae rhannau ohoni wedi cael eu diffodd oherwydd eu bod yn beryglus gan eu bod yn tynnu sylw rhai gyrwyr ar y teithiau hyn. Felly, allwch chi ddweud wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith fyddwch chi’n ei wneud yn awr er mwyn sicrhau bod adolygiad o hyn yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n datblygu atebion i broblemau gweithredol gyda gwasanaethau TrawsCymru penodol, gan gynnwys TrawsCymru T3, y gwasanaeth yr oedd Darren Millar yn ei grybwyll nawr; dyma'r gwasanaeth rhwng Wrecsam a'r Bermo. A'r hyn maen nhw'n ei wneud yw datblygu atebion a fydd yn sicrhau gwell dibynadwyedd.
“Rydyn ni wedi gwella'r gwasanaeth T2 yn ddiweddar hefyd, sy'n cysylltu Bangor ag Aberystwyth, ac mae hynny wedi cynnwys mwy o deithiau gyda'r nos a dydd Sul. Ond os caf, Lywydd, rwyf am ofyn i Trafnidiaeth Cymru archwilio'r pryderon a godwyd heddiw gan Darren Millar ac ymateb yn unol â hynny.”