Gydag adroddiad newydd yn dangos bod cleifion yn dal i fod mewn perygl yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd, er gwaethaf rhai gwelliannau, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn galw eto ar i Lywodraeth Lafur Cymru gyflawni ei haddewid am Ysbyty Cymunedol newydd yng Ngogledd Sir Ddinbych.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (22 Awst 2024) yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ym mis Mai 2022, dynodwyd yr adran, sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn wasanaeth y mae angen ei wella'n sylweddol (SRSI). Nod proses SRSI AGIC yw nodi methiannau gwasanaeth, er mwyn sbarduno gwelliant brys. Roedd y dynodiad hwn yn seiliedig ar gasglu tystiolaeth, gan arwain at archwiliad dirybudd ar y safle ym mis Mai 2022. Yna cynhaliwyd arolygiad dilynol ym mis Tachwedd 2022, a nododd mai dim ond ychydig iawn o welliant a nodwyd, felly arhosodd y dynodiad yn ei le.
Yn ystod yr arolygiad diweddar a gynhaliwyd dros dridiau ym mis Ebrill/Mai 2024, canfuwyd gwelliant amlwg o fewn y meysydd pryder sylweddol a nodwyd yn 2022. Roedd y meysydd hyn yn cynnwys uwchgyfeirio’n amserol gleifion â chyflyrau difrifol a risg uchel, a goruchwyliaeth gryfach o'r ardal aros o'i gymharu ag arolygiadau blaenorol. Yn gyffredinol, tynnodd arolygwyr sylw at well diwylliant, cynnydd yn y lefelau staffio ac arweinyddiaeth gryfach.
Fodd bynnag, roedden nhw'n poeni bod pwysau a galw o fewn yr adran yn arwain at fwy o risg i gleifion.
Mae Darren wedi bod yn galw ers tro byd ar Lywodraeth Lafur Cymru i wireddu ei haddewid am ysbyty newydd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl – addewid a wnaed dros 11 mlynedd yn ôl.
Meddai:
"Mae'r pwysau annerbyniol a'r heriau parhaus yn dystiolaeth bellach i gefnogi'r angen i ddarparu Ysbyty Cymunedol newydd yng Ngogledd Sir Ddinbych gyda gwelyau ychwanegol ac Uned Mân Anafiadau newydd i wasanaethu ardal yr arfordir.
"11 mlynedd yn ôl, cafwyd addewid gan Lywodraeth Cymru y byddai’n adeiladu'r ysbyty hwn i wasanaethu ardal yr arfordir, gan wella mynediad at wasanaethau'r GIG ac ysgafnhau'r pwysau ar Glan Clwyd.
"Dylai fod wedi ei agor yn 2016, ond dydyn ni ddim wedi gweld yr un gaib na rhaw eto, er bod arian yn cael ei wario ar ysbyty newydd sbon yn y De.
"Fel y mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn ei nodi'n glir, mae gwir angen yr ysbyty hwn, ac eto mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Lafur Cymru ar frys i'w ddarparu a darparu'r gwasanaethau iechyd sy’n haeddiannol ac yn angenrheidiol i bobl Gogledd Sir Ddinbych.
"Mae eu hymatebion di-hid pan fyddaf yn codi hyn dro ar ôl tro dros y blynyddoedd wedi bod yn reit sarhaus a bod yn ddi-flewyn ar dafod - maen nhw'n peryglu cleifion yn y Gogledd. Felly, rwy'n eu hannog i ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn, adeiladu ein hysbyty a rhoi'r gorau i flaenoriaethu eu prosiectau di-ddim. Dyw pobl ddim eisiau cyfyngiadau cyflymder 20mya a mwy o wleidyddion, maen nhw eisiau gwasanaeth iechyd y gallan nhw ddibynnu arno!"