Os byddwch chi i ffwrdd ar ddiwrnod etholiad, yn y gwaith neu ar wyliau, ddim yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio am resymau corfforol neu am nad oes gennych ddigon o amser, gallwch ddefnyddio’ch hawl ddemocrataidd i bleidleisio o hyd. Efallai eich bod wedi symud tŷ ers i’r gofrestr etholwyr gael ei chreu, a heb ymuno â’r gofrestr yn eich cartref newydd. Gallwch ddewis pleidleisio drwy’r post neu bleidleisio trwy ddirprwy - hynny yw, rhywun arall yn pleidleisio drosoch chi.
I wybod mwy am bleidleisio drwy’r post, cysylltwch â gwefan swyddogol y Llywodraeth:
http://www.postalvotes.co.uk
Gallwch ddefnyddio’r wefan hon i lawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post. Argraffwch y ffurflen, llenwch y manylion, a’i phostio at y Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol yn swyddfa’ch cyngor lleol.