Hanes o weithdredu...
Y tro cyntaf i Darren gael ei ethol i Senedd Cymru oedd yn 2007, ac erbyn hyn mae ar ei bedwerydd tymor.
Cyn cael ei ethol i'r Senedd, bu Darren yn gweithio fel rheolwr i elusen ryngwladol yn cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.
Ar ôl cael ei fagu yn Nhywyn, mae Darren bellach yn byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn, sy’n blant hŷn erbyn hyn.
Yn dilyn etholiad y Senedd 2021 penodwyd Darren i swydd y Prif Chwip a llefarydd yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, ar fainc flaen Ceidwadwyr Cymru.
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Senedd Cymru mae Darren wedi bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios yr wrthblaid, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Llywodraeth Leol a Materion Rhyngwladol. At hynny, bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.
Ar hyn o bryd mae Darren yn cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Ffydd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, ag yntau’n un o sylfaenwyr y naill grŵp a’r llall.
Yn 2000/2001 Darren oedd y maer ieuengaf yng Nghymru – mae Darren ar ddeall nad oes maer ifancach wedi bod, hyd yn hyn – pan oedd yn faer ar drefgordd Tywyn a Bae Cinmel. At hynny bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Darren yn Gristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur.