Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r rhestrau aros offthalmoleg "annerbyniol", gan gyfeirio at etholwr sydd wedi bod yn aros i gael ei weld ers 98 wythnos.
Gan alw am Ddatganiad ar y sefyllfa enbyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn y Datganiad Busnes heddiw yn y Senedd, dywedodd Darren:
“Cysylltodd etholwr â mi'r wythnos diwethaf a fu'n aros am apwyntiad mewn cysylltiad â glawcoma. Cafodd ei gyfeirio gan siop Specsavers lleol at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr 2023.
“Ni chlywodd yr un gair, dim byd o gwbl, nes iddo fynd ar drywydd y mater gyda'm swyddfa i. Fe wnaethom ni gysylltu â'r bwrdd iechyd, ac, yn anffodus, fe gawsom ni wybod er ei fod ef ar restr, a’i fod wedi aros am 55 wythnos yn barod, y bydd yn rhaid iddo aros am 43 wythnos arall o leiaf nawr cyn y caiff ei weld.
“Nawr, yn amlwg, pan fo pobl mewn perygl o golli eu golwg, gyda difrod i'w golwg na ellir ei wyrdroi, mae hynny'n annerbyniol.
“Mae'r RNIB wedi rhybuddio bod pobl yn cael eu niweidio o ganlyniad i'r rhestrau aros hyn, yn ogystal â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, sydd wedi rhagweld cynnydd yn y galw o 30 y cant i 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.
“Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn? Dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wybod, ar ran ein hetholwyr ni. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd.
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes) Jane Hutt AS:
"Mae'r rhain yn faterion rydych chi wedi’u dwyn i’n sylw ni heddiw, ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Darren:
"Mae angen mynd i'r afael â’r mater ar frys, ni ddylai unrhyw glaf orfod aros 98 wythnos, yn enwedig pan mae ei olwg mewn perygl!"