Profodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, ei sgiliau gyrru yr wythnos diwethaf pan ymwelodd â chwmni cludo yn ei etholaeth a mynd y tu ôl i olwyn yn un o'u tryciau.
Yng nghwmni AS Dyffryn Clwyd, Gareth Davies, treuliodd Darren amser yn L E Jones yn Rhuthun ddydd Gwener. Maen nhw’n un o'r cwmnïau cludo annibynnol mwyaf yn y Gogledd Orllewin, ac yn gyflogwr blaenllaw yn y Gogledd.
Daeth yr ymweliad yn dilyn digwyddiad Cymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd Cymru (RHA) yn y Senedd y llynedd.
Rhoddodd digwyddiad RHA y Senedd lwyfan i weithredwyr siarad â'r Llywodraeth a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eraill am faterion sy’n allweddol i’r diwydiant gan gynnwys cyfleusterau gyrwyr, datgarboneiddio, buddsoddi mewn ffyrdd a chostau seilwaith a chostau gweithredu.
Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf parhaodd y trafodaethau, a dysgodd Darren a Gareth fwy am yr heriau sy'n wynebu'r cwmni, a sefydlwyd ym 1975.
Ers ei sefydlu, mae'r busnes wedi profi twf ac ehangu parhaus, a arweiniodd at symud i'w safle pwrpasol presennol yn Brickfield Lane, ar Ffordd Dinbych, ym 1992.
Wrth siarad ar ôl ei ymweliad, dywedodd Darren:
"Mae L E Jones wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers sefydlu’r cwmni 50 mlynedd yn ôl ac maen nhw bellach yn gyflogwr blaenllaw yn y Gogledd.
"Roedd yn bleser ymweld â nhw ar eu safle ar Brickfield Lane yn Rhuthun a chwrdd â Rhys a rhai o'r tîm.
"Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gymryd y llyw yn un o'u tryciau, Elsa, a chael blas ar ba mor heriol yw rheoli cerbyd mor fawr. Yn ffodus, aeth popeth yn iawn ac mae'r lori a minnau yn dal mewn un darn!
"Mae'r diwydiant cludo yn wynebu nifer o heriau, ac roedd hi’n dda cael y cyfle i glywed o lygad y ffynnon sut mae'r rhain yn effeithio ar y busnes lleol hwn. Maen nhw'n wynebu cyfnod ansicr ar hyn o bryd gyda newid llywodraeth. Mae'r cynnydd mewn costau Yswiriant Gwladol a'r ansicrwydd ynghylch tollau y cronfeydd ffyrdd yn sicr yn achos pryder.
"Mae angen y diwydiant hwn arnom ni - rydyn ni i gyd yn dibynnu arno bob dydd ac yn ystod ein hymweliad fe wnes i sicrhau rheolwyr a staff L E Jones y byddan nhw'n cael ein cefnogaeth barhaus. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ac rwy’n dymuno'n dda iddyn nhw gyda'u hymdrechion yn y dyfodol."
Ychwanegodd Gareth Davies AS:
"Gwnaeth y safle yn Rhuthun argraff fawr arna’i, ac roedd yn ddiddorol dysgu mwy am hynt a helynt y cwmni ers ei sefydlu nôl ym 1975.
"Maen nhw'n sicr wedi dod yn bell ac rwy'n eu canmol am bopeth maen nhw wedi'i gyflawni a’r cyfan maen nhw'n ei wneud i gefnogi'r economi leol.
Diolch iddyn nhw am ein gwahodd yno a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw."