Yn dilyn sylwadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan y cyn-Brif Weinidog a nawr yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, bod gan GIG Cymru ormod o welyau ysbyty, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw am eglurhad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.
Wrth siarad ar bodlediad yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: "Os ydych chi'n gofyn i fi, pe bai gen i ddalen wag o bapur ac y gallwn wneud y pethau dwi’n meddwl sydd angen eu gwneud, byddai gennym lai o ysbytai yng Nghymru. Mae gennym ormod o ysbytai a gormod o welyau."
Yn y Datganiad Busnes ddoe, dywedodd Darren y byddai cleifion yng Nghymru yn anghytuno â’r farn hon.
Gan alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Iechyd ar y mater, dywedodd:
“Rwy'n credu bod llawer o bobl ledled Cymru wedi'u brawychu'n ofnadwy o weld cymaint yr oedd Llywodraeth Cymru wedi colli gafael ar bethau yr wythnos diwethaf pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddatganiad a oedd yn awgrymu bod gormod o welyau yn GIG Cymru a gormod o ysbytai.
“Nawr, i'r bobl hynny sydd wedi eu gadael yn dihoeni mewn poen ar restrau aros, am fod angen triniaeth mewn ysbyty arnyn nhw, roedd y datganiad hwnnw'n hollol warthus.
“Mae angen bod ag eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer y gwelyau sydd eu hangen yn GIG Cymru, i sicrhau na fydd cyfluniad presennol ein hysbytai ni'n lleihau, ac, yn wir, sicrhau y bydd yr ysbytai newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi addo yn cael eu darparu mewn gwirionedd, yn enwedig o gofio mai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sy'n dal llinynnau’r pwrs.”
Yn ei hymateb, ni roddodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes) unrhyw sicrwydd ar niferoedd gwelyau.