Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi cefnogi deiseb gan ddioddefwr gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol (grwmio), yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau o’r fath.
Mae'r ymgyrchydd Emily Vaughan sydd wedi siarad ac ysgrifennu am ei phrofiadau yn cael ei masnachu a'i hecsbloetio gan gangiau yng Nghymru, wedi lansio deiseb i’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad ledled Cymru i gamfanteisio rhywiol gan gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r galwadau ac yn annog aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru i arwyddo'r ddeiseb.
Meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae tystiolaeth glir a gofidus o gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol yn camfanteisio’n rhywiol ar ferched ifanc yma yng Nghymru ond yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod yw maint llawn y broblem.
"Mae Emily a dioddefwyr dewr eraill yn haeddu ymchwiliad trylwyr a phellgyrhaeddol i’r broblem hon a’n bod yn dwyn i gyfrif cyflawnwyr troseddau o'r fath, a dyna pam rydyn ni’n cefnogi ei deiseb am ymchwiliad ledled Cymru.
"Mae'n rhaid i wleidyddion roi gwleidyddiaeth plaid o'r neilltu, dod at ei gilydd i gefnogi dioddefwyr camdriniaeth, a sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y camfanteisio rhywiol erchyll y mae Emily ac eraill wedi ei ddioddef.
"Gwyddom o'r hyn sydd eisoes wedi dod i amlwg yn Abertawe ac mewn mannau eraill yn y DU, nad yw derbyn sicrwydd yr heddlu a chynghorau lleol nad yw gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yn eu hardaloedd yn ddigon da.
"Dim ond ymchwiliad ledled Cymru fydd yn gallu sicrhau bod digon o sylw a ffocws yn cael ei roi i'r mater yma, ac y gall ein plant gael eu hamddiffyn rhag ymddygiad rheibus."
Mae'r ddeiseb, a gyflwynwyd gan Emily Vaughan, dioddefwr gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru, yn darllen fel a ganlyn:
Teitl - Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwiliad Cymru gyfan i gamfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.
Cefndir - Roeddwn i’n ddioddefwr camfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol. Rwy’n gwybod bod yr arfer hwn yn fwy cyffredin nag yr oedd yr awdurdodau’n ei gydnabod. Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i weld pa mor eang yw’r broblem ac i gefnogi dioddefwyr yng Nghymru.