Cwestiynodd Darren Millar AS ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiad critigol a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf yn y flwyddyn newydd, gan dynnu sylw at y tebygolrwydd y bydd oedi hir gan ambiwlansys yn arwain at farwolaethau diangen.
Roedd Mr Millar yn siarad ar ôl cyfarfod â Phennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a wnaeth ei rybuddio am yr effaith y byddai'r oedi yn ei chael.
Wrth godi'r mater yn y Senedd gyda'r Prif Weinidog, dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:
"Rwy'n siomedig tu hwnt gyda'r ffordd y mae’r Prif Weinidog yn llaesu dwylo yn dilyn yr oedi mewn gwasanaethau Ambiwlans a'r datganiad digwyddiad critigol. Mae pobl yn marw, nid yw llaesu dwylo yn dderbyniol.
"Ni chafodd ambiwlans ei anfon at 340 o bobl a oedd wedi gofyn am ymateb brys – a hynny’n bennaf oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai. Yn ystadegol, bydd 1 o bob 10 o'r bobl hynny wedi dioddef niwed neu farwolaeth y gellid bod wedi ei atal o ganlyniad. Dyma ffigur a roddwyd i mi gan bennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddoe yn ystod fy ymweliad.
"Mae'r sefyllfa yn ein gwasanaeth ambiwlans yn annerbyniol i staff a chleifion, sydd i bob pwrpas yn wynebu digwyddiad critigol gydol y flwyddyn.
"Mae angen cynnydd brys mewn capasiti gwelyau ysbyty, cynlluniau gwell ar gyfer rhyddhau cleifion, a chynllun hirdymor credadwy i drwsio ein gwasanaeth iechyd a throi'r sefyllfa hon ar ei phen."