Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog pobl o dan 30 oed sy'n ddawnus ym meysydd chwaraeon, addysg neu'r celfyddydau i wneud cais am grant i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer rownd ddiweddaraf Cronfa Ragoriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy'n rhoi grantiau i'r rhai o dan 30 oed sydd naill ai'n cystadlu ar lefel genedlaethol mewn chwaraeon neu sy'n dalentog yn y celfyddydau, dawns, cerddoriaeth, drama ac addysg.
Meddai Darren:
"Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n bodloni’r gofynion i'w helpu i wireddu eu potensial drwy hyfforddiant a datblygiad.
"Gellir defnyddio’r arian ar gyfer pob math o bethau gan gynnwys costau offer, hyfforddiant, teithio neu lety. Mae grantiau o hyd at £800 ar gael.
"Mae angen derbyn ceisiadau ar gyfer y cylch ariannu presennol hwn erbyn 7 Chwefror a byddwn yn annog pawb sy'n gymwys i wneud cais i wneud hynny cyn y dyddiad cau."
Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ragoriaeth a manylion am sut i wneud cais ar wefan Conwy: