Ar ôl blynyddoedd o alw am fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd ym Mae Cinmel, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wrth ei fodd bod gwaith bellach ar y gweill ac yn ddiweddar bu’n ymweld â’r safle i gwrdd â gweithwyr a chlywed mwy am y prosiect.
Penodwyd y cwmni Jones Bros, sydd â'i bencadlys yn Rhuthun, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i gyflawni'r datblygiad gwerth £13m sy'n cynnwys tua 80,000 tunnell o amddiffynfeydd meini, o chwareli’r Gogledd, yn cael eu caffael a'u defnyddio i gryfhau'r gwrthglawdd presennol rhwng Tywyn a Bae Cinmel.
Bydd Jones Bros hefyd yn codi uchder bron i 2km o’r wal y môr bresennol 500-750mm ac yn disodli dwy lifddor fel rhan o gynlluniau i leihau effaith tywydd garw iawn a llifogydd arfordirol cysylltiedig.
Meddai Darren:
"Rwyf wrth fy modd bod y gwaith angenrheidiol hwn ar y gweill o'r diwedd.
"Mae trigolion yr ardal yn derbyn rhybuddion llifogydd yn rheolaidd oherwydd yr amddiffynfeydd annigonol, felly bydd eu rhoi ar waith yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw fod eu cartrefi'n cael eu hamddiffyn.
"Fel rhywun a ddioddefodd lifogydd yn ei gartref teuluol yn Nhowyn flynyddoedd yn ôl, rwy'n gwybod yn iawn yr effaith ddinistriol y mae llifogydd yn ei chael ar gymunedau.
"Nid yw'n braf byw mewn ofn bob tro y bydd tywydd gwael yn taro, a dyna pam rydw i wedi gwthio dro ar ôl tro am yr amddiffynfeydd hyn dros y blynyddoedd.
"Rwy'n hynod falch bod y gwaith wedi dechrau cyn y Nadolig o'r diwedd a'i fod yn cael ei wneud gan gwmni lleol gydag enw da.
"Mae gen i bob ffydd y bydd Jones Bros yn gwneud gwaith rhagorol ac yn cwblhau'r gwaith ar amser.
"Roedd hi’n wych cwrdd â'r gweithwyr ar y safle i gael gwell dealltwriaeth o sut bydd yr amddiffynfeydd yn cael eu hadeiladu a chael gwybod mwy am sut byddant yn gwella’r ardal glan y môr, gan gynnwys gwella mynediad i’r traeth, uwchraddio'r maes parcio, a gosod dodrefn stryd.
"Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ar gyfer gwanwyn 2026 ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cyfan wedi’i orffen."
Bydd gan Jones Bros hyd at 50 o staff, gan gynnwys prentisiaid a hyfforddeion, ar draws y cynllun, yn ogystal â chaban gwybodaeth ar y safle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol.
Meddai rheolwr prosiect Jones Bros, Sam Roberts:
"Mae'n amlwg bod gwir angen gwneud gwelliannau i'r amddiffynfeydd arfordirol.
"Rydyn ni fel cwmni yn gwybod ei fod yn ddatblygiad o arwyddocâd go iawn, yn enwedig gyda 95 y cant o staff ar y cynllun ar hyn o bryd yn galw’r Gogledd yn gartref.
"Mae gennym brofiad helaeth yn y sector ar ôl gweithio ar draws y rhanbarth a'r DU yn ehangach, felly gall ein harbenigedd fod o fudd i'r gymuned.
"Fel gyda phob un o’n prosiectau, byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â'r bobl leol, yn ogystal â defnyddio'r gadwyn gyflenwi sydd ar garreg y drws."