Mae'r Nadolig yn adeg arbennig o'r flwyddyn – adeg pan fydd llawer ohonom yn dathlu genedigaeth Iesu Grist trwy arafu o bwysau byd gwaith, treulio amser arbennig gyda'n hanwyliaid, a chyfnewid anrhegion a mwynhau bwyd a diod da ar ein haelwydydd cynnes.
Mae hefyd yn amser i fyfyrio a chyfri'n bendithion, amser i ddiolch i'r rhai sydd wedi ein cefnogi a'n cynghori gydol y flwyddyn, a chyfle i ddathlu popeth sy'n dda yn y byd.
Bob dydd ar y newyddion rydyn ni'n gweld ac yn clywed am y dioddefaint mawr sy'n digwydd yn y wlad hon a thramor, boed hynny trwy drosedd, tlodi neu ryfeloedd, a rhaid i ni gofio a gweddïo dros bawb sydd wedi'u heffeithio.
Fodd bynnag, mae'r un mor bwysig cofio a chymeradwyo'r holl bethau da sy'n digwydd yn ein bröydd ni.
Fel AS, rwy'n ymweld â llawer o elusennau, grwpiau cymunedol a hosbisau gwych, sy'n gwneud gwaith rhagorol yn ein trefi a'n pentrefi. Bydd rhai ohonynt yn gweithio dros gyfnod y Nadolig, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am hynny.
Ond nid nhw yw'r unig rai a fydd gohirio dathliadau'r Nadolig. Mae'r Nadolig yn ddiwrnod gwaith arall i lawer - ein Lluoedd Arfog a staff GIG gwych, ac wrth gwrs pawb sy'n gweithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo a manwerthu. Mae'n bwysig ein bod ni'n meddwl amdanyn nhw i gyd.
Hefyd, rhaid meddwl am y rhai sy'n galaru ac ar eu pen eu hunain y Nadolig hwn. Mae'r Nadolig cyntaf heb eu hanwyliaid yn gallu bod yn hynod boenus felly da chi cysylltwch ag unrhyw ffrindiau neu gymdogion sydd yn y sefyllfa hon eleni, yn ogystal â'r rhai a allai fod ar eu pennau eu hunain am ba bynnag reswm.
Efallai y bydd y Nadolig yn anodd i rai eleni oherwydd yr argyfwng costau byw, ond mae'n bwysig i ni gyd gofio nad anrhegion moethus a llond trol o fwyd yw'r hyn sy'n gwneud y Nadolig yn arbennig. Mae'n ymwneud â threulio amser gwerth chweil gyda'n hanwyliaid, cynorthwyo'r rhai llai ffodus na ni ein hunain, a gwerthfawrogi popeth sydd gennym.
Ar yr adeg bwysig hon o'r flwyddyn i'r ffydd Gristnogol, rwy'n anfon fy nymuniadau gorau i'm holl etholwyr sy'n dathlu'r Nadolig.
Boed i lawenydd a heddwch yr Iesu fod gyda chi i gyd – Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.