Mae'r effaith ddinistriol y mae gamblo yn ei chael ar fywydau pobl yng Nghymru wedi cael ei godi yn y Senedd gan Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, sydd wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â'r broblem.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Darren y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i helpu pobl a galwodd am ddatganiad ar y mater gan y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd.
Dywedodd:
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gamblo cymhellol yn broblem sy'n gyffredin ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ond nid yw'n ymddangos bod llawer iawn o gamau gweithredu ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r broblem hon, ac eto rydyn ni'n gwybod ei fod yn difetha bywydau, mae'n difetha perthnasoedd pobl, mae'n achosi i lawer golli eu cartrefi, busnesau, a hyd yn oed rhai pobl, yn anffodus, i fynd mor bell â chymryd eu bywydau eu hunain.
“Mae camau y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem: gallen ni ymdrin â nifer y siopau betio mewn rhai cymunedau difreintiedig, trwy newid y system cynllunio; gallen ni wneud mwy i addysgu pobl ifanc am niwed gamblo cymhellol yn ein hysgolion, drwy'r cwricwlwm; ac, wrth gwrs, gallem ni ddatblygu gwasanaeth caethiwed i gamblo cenedlaethol, nad oes gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd gan rannau eraill o'r DU ar hyn o bryd.
“Rwy'n credu y byddai'n dda cael dadl neu ddatganiad yn y Siambr hon, gan y Llywodraeth, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn fel Senedd gyfan, a bwrw ymlaen â rhai camau pendant i ymdrin â'r broblem hon unwaith ac am byth, o gofio bod gamblo yn fygythiad iechyd y cyhoedd.”
Yn ei hymateb, diolchodd Trefnydd (Rheolwr Busnes) Llywodraeth Cymru i Darren am ddod â'r mater i sylw'r Senedd a dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn mynd ati i edrych ar y mater.
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: