Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, sydd wedi herio Llywodraeth Cymru yn flaenorol dros y swm afresymol o arian a wariwyd ar oleuadau traffig dros dro ar ddwy bont dros yr A55, wedi croesawu'r newyddion y bydd gwaith atgyweirio ar un o'r pontydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025, ond mae'n siomedig nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer y llall.
Cyflwynodd Darren Gwestiwn Ysgrifenedig yn ddiweddar i Ken States, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, yn gofyn pryd y bydd gwaith atgyweirio i bont Primrose Hill yn San Siôr, a Phont Sea Road yn Abergele yn cael ei gwblhau.
Pan heriodd Darren ac AS Gogledd Cymru Sam Rowlands Lywodraeth Cymru ynghylch cost cael goleuadau traffig dros dro yn y ddau leoliad yn ôl ym mis Mehefin 2023, roedd y ffigur bron yn £230,000.
Gofynnodd Darren yr un cwestiwn yr wythnos hon a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrtho mai cyfanswm y costau hyd yn hyn yw: Pont Sea Road: £173,553.51, Pont Primrose Hill: £84,181.43, cyfanswm o bron i £260,000.
Roedd yn falch o gael gwybod felly fod y gwaith atgyweirio i Bont Primrose Hill wedi'i amserlennu i'w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon ym mis Mawrth 2025.
Fodd bynnag, mae'n pryderu nad oes newyddion da tebyg ar hyn o bryd ar gyfer Pont Sea Road, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan bod "Pont Sea Road yn gynllun peirianyddol llawer mwy cymhleth a chostus, ac ar hyn o bryd, mae yna flaenoriaethau uwch mewn mannau eraill ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Mae atgyweirio ein ffyrdd yn flaenoriaeth a byddwn yn datblygu'r cynllun hwn cyn gynted â phosibl pan fydd cyllid ar gael.”
Meddai Darren:
“Mae Sam a minnau wedi galw dro ar ôl tro am i'r gwaith hwn gael ei wneud ar frys, ac er fy mod yn croesawu'r ffaith bod dyddiad wedi'i roi bellach ar gyfer gwaith Primrose Hill, mae'n siomedig nad oes dyddiad wedi'i roi ar gyfer y gwaith ar bont Sea Road.
“Gallai'r swm helaeth o arian sydd wedi cael ei wario ar oleuadau traffig dros dro yn y ddau leoliad hyn dros y blynyddoedd fod wedi cael ei ddefnyddio'n well pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gynt ac rwy'n pryderu y bydd arian yn parhau i gael ei wario ar oleuadau Sea Road gan nad yw'n cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.
“Fel rydw i eisoes wedi’i ddweud, goleuadau dros dro oedd y rhain i fod, ac eto mae'r rhai ar Sea Road wedi bod yno ers 14 o flynyddoedd!
“Rwy'n siŵr bod trigolion yr un mor rhwystredig â ni ynglŷn â’r oedi, a bod symiau mor sylweddol o arian trethdalwyr wedi cael ei wario ar y goleuadau "dros dro" honedig hyn dros y blynyddoedd.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith wedi'i gwblhau ar bont Primrose Hill cyn diwedd mis Mawrth, ac yn y cyfamser byddaf yn parhau i roi pwysau ar Ysgrifennydd y Cabinet i bennu dyddiad ar gyfer gwaith ar bont Sea Road.”
Meddai Sam:
“Rwy'n croesawu'r newyddion y bydd gwaith ar bont Primrose Hill yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ond fel Darren rwy'n siomedig ac yn rhwystredig ein bod yn dal i aros am ddyddiad ar gyfer gwelliannau Sea Road.
“Fel rwyf wedi’i ddweud yn y gorffennol, mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym ar y mater hwn yn dystiolaeth bellach nad oes yna ddim cywilydd fod arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu.”