Mae AS Gorllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda ffermwyr y Gogledd am drafodaethau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Yng nghyfarfod y Senedd yr wythnos hon, galwodd Darren am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar drafodaethau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl i ffermwyr yn y Gogledd gysylltu i ddweud eu bod yn y tywyllwch ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes, dywedodd Darren:
“A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwledig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ysgrifenedig am drafodaethau'r cynllun ffermio cynaliadwy, sydd wedi bod yn mynd rhagddynt ers cryn amser erbyn hyn?
“Un o'r pryderon y mae ffermwyr yn fy etholaeth i wedi'u codi gyda mi yw eu bod yn y tywyllwch o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y trafodaethau hynny.
“Rwy'n gwerthfawrogi bod y trafodaethau'n cael eu cynnal mewn amgylchedd caeedig er mwyn i bobl allu bod yn agored gyda'i gilydd am eu nodau, ond rwy'n credu bod y gymuned ffermio yn haeddu gwybod beth yw'r sefyllfa hyd yma, ac rwy'n credu ei bod yn amser da i wneud hynny nawr, cyn bod y trafodaethau hynny yn dod i ben tua diwedd y flwyddyn.”
Yn ei hymateb, cyfeiriodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes) Jane Hutt AS at y “ddadl fawr” fydd yn cael ei chynnal ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yr wythnos nesaf, a mynnodd fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ffermwyr “ac yn gweithio gyda nhw i gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn 2026”.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Os yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ffermwyr ac yn gweithio gyda nhw, yna pam mae ffermwyr yn y Gogledd yn cysylltu â mi heb unrhyw syniad beth yw’r sefyllfa bresennol? Mae eu bywoliaeth yn y fantol a dylid rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda nhw.”
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: