Gofal llygaid yw'r arbenigedd cleifion allanol prysuraf yn GIG Cymru, gan gyfrif am 1 o bob 8 claf ar restr aros y GIG.
Mae dros 80,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu'r risg fwyaf o golli eu golwg i’r graddau na ellir ei wrthdroi gan eu bod yn aros yn rhy hir am apwyntiadau.
Mae ffigurau'n dangos y bydd tua 1 o bob 5 o bobl yn colli eu golwg yn ystod eu hoes, gyda thua 250 o bobl yn dechrau colli eu golwg bob dydd. Yn wir, byddai faint o bobl yng Nghymru sydd mewn perygl o golli eu golwg yn llenwi Stadiwm y Mileniwm.
Dros y degawd diwethaf, mae atgyfeiriadau at wasanaethau offthalmig wedi cynyddu dros 50%, ond mae eu gweithlu wedi aros yr un fath.
Ym mis Ebrill 2024, roedd dros 104,000 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros am apwyntiad offthalmoleg, ac mae Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn amcangyfrif bod disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru gynyddu 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.
Canfu arolwg RNIB yn ystod ail hanner y llynedd fod pobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru yn fwy tebygol o wynebu cynnydd mewn costau trafnidiaeth, ynni a bwyd na chyfartaledd y DU oherwydd yr heriau unigryw sy’n dod i’w rhan o ganlyniad i'w hanabledd. Daw hyn ar ffurf mwy o ddibyniaeth ar dacsis, mwy o angen am olau, mynediad israddol at wybodaeth ac anawsterau siopa.[1]
Canfuwyd hefyd fod costau na ellir eu hosgoi i fwy nag un o bob pump o bobl ddall a rhannol ddall yn cyrraedd mor uchel â £200 y mis, gyda llawer yn mynd heb hanfodion i gael dau ben llinyn ynghyd ac eraill yn mynd allan llai i arbed arian, gan arwain at brofiadau o arwahanrwydd, unigrwydd ac iselder.
Cafodd yr holl ffeithiau hyn eu hamlygu yn Siambr y Senedd yr wythnos ddiwethaf pan gyflwynodd y Ceidwadwyr gynnig yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i atal achosion o golli golwg na ellir ei wrthdroi, a mabwysiadu argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg.
Fe wnaethon ni alw ar Lywodraeth Cymru i nodi targedau a therfynau amser ar gyfer gwella ôl-groniadau rhestrau aros, gan sicrhau bod cleifion sy'n aros yn derbyn negeseuon am eu risg glinigol; ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno'r system cofnodion ac atgyfeirio cleifion electronig.
Wrth siarad yn y ddadl, gofynnais i Lywodraeth Cymru ymuno â mi i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Beisi Cadwaladr i helpu i glirio'r ôl-groniad o gleifion sy'n aros am driniaeth trwy fuddsoddi yn Uned Llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele.
Gofynnais hefyd i Lywodraeth Cymru ymuno â mi i annog y GIG yn ehangach i ddefnyddio ei adnoddau'n fwy effeithlon trwy ei annog i wneud y ddwy lygad yr un pryd, os oes angen llawdriniaethau cataract ar bobl, yn hytrach nag mewn apwyntiadau ar wahân, sy’n ymddangos i mi yn ffwlbri llwyr ac yn wastraff adnoddau.
Yn hytrach na chefnogi ein cynllun i atal yr hyn y mae meddygon wedi'i rybuddio sy'n don anferth o ddallineb, trechodd Llafur ein cynnig yn anffodus.
Fel y dywedodd Rheolwr Materion Allanol RNIB Cymru, Nathan Owen: "Bob mis sy'n mynd heibio heb ymrwymiad i wella gofal llygaid, mae cannoedd o bobl yn cael eu hychwanegu at restrau aros ac mae'r gobaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llithro ymhellach allan o gyrraedd. Rydyn ni eisiau Cymru lle gall unrhyw un y gellid arbed ei olwg gyda thriniaeth amserol gael mynediad at y gofal sydd ei angen arno, pan fydd ei angen."
Am gyngor ar ofal llygaid a rhagor o wybodaeth am y cymorth ymarferol ac emosiynol sydd ar gael i bobl sy'n colli eu golwg, ewch i wefan RNIB Cymru | Sefydliad colli golwg mwyaf Cymru | RNIB