Mae AS Gorllewin Clwyd a Gweinidog Cysgodol Gogledd Cymru, Darren Millar, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes ddoe yn Senedd Cymru, cyfeiriodd Darren at y ffaith fod blwyddyn wedi mynd heibio ers erchyllterau ofnadwy 7 Hydref 2023, sef y diwrnod tywyllaf yn hanes yr Iddewon ers yr Holocost, a galwodd am ddiweddariad i Aelodau o’r Senedd mewn perthynas â'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru
Dywedodd:
"Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n flwyddyn ers yr erchyllterau ofnadwy ar 7 Hydref 2023, pan ymosododd terfysgwyr Hamas ar sifiliaid diniwed yn Israel, ac rydyn ni wedi gweld pethau erchyll yn digwydd ers y dyddiad hwnnw.
“… Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n deall y camau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru. Mae'n bodoli; mae'n broblem y mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â hi."
Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Prif Chwip:
"Rydyn ni’n bryderus iawn am adroddiadau am gynnydd mewn troseddau casineb sydd wedi'u targedu at gymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru, ac rwy'n credu mai'r brif neges rwyf am ei rhoi heddiw yw ein bod ni’n annog aelodau o'r cymunedau hyn i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau casineb.
"Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru, yr ydym yn ei chyllido, yn cael ei chynnal gan Gymorth i Ddioddefwyr, ac rydyn ni wedi gofyn i'n Canolfan Cymorth Casineb yng Nghymru fonitro am unrhyw gynnydd yn y troseddau casineb gwrthsemitig ac Islamoffobig y rhoddir gwybod amdanynt, ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Darren:
"Mae angen dileu casineb a hiliaeth sy'n gweithredu fel meithrinfa ar gyfer drygioni gan arwain at ddigwyddiadau fel erchyllterau 7 Hydref 2023, a dyna pam mae angen i ni fod yn wyliadwrus drwy’r amser a chymryd camau cyflym i fynd i'r afael â hiliaeth a chasineb lle bynnag y mae'n codi ei ben hyll.
"Mae troseddau casineb, p'un ai ar-lein neu fel arall, yn droseddau difrifol a all gael effeithiau dinistriol a pharhaol ar unigolion a chymunedau ledled Cymru, ac fel Gweinidog y Cabinet, rwy'n annog pobl i’w riportio pan fyddan nhw’n dod ar eu traws."
Mae sawl ffordd y gallwch chhi riportio troseddau casineb. Am ragor o wybodaeth ewch i https://reporthate.victimsupport.org.uk/cy/report-a-hate-crime/
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: