Gydag amseroedd aros offthalmoleg ddim lle mae Llywodraeth Cymru na'r cyhoedd am iddyn nhw fod, mae Gweinidog yr Wrthblaid dros y Gogledd a’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn galw am fuddsoddiad yn Uned Llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele.
Cododd Darren y mater wrth siarad yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos hon ar wasanaethau offthalmoleg, a nododd:
- bryderon a godwyd gan RNIB Cymru bod tua 80,000 o bobl sydd â'r risg uchaf o golli eu golwg na ellir ei wrthdroi yn aros y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad;
- ym mis Ebrill 2024, roedd dros 104,000 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros am apwyntiad offthalmoleg; a
- bod Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn amcangyfrif bod disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru gynyddu 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.
Gofynnodd Darren i Lywodraeth Cymru ymuno ag ef i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i glirio'r ôl-groniad trwy fuddsoddi yn Uned Llygaid Stanley.
Meddai:
"Mae Uned Llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele, sydd yn fy etholaeth i. Mae'r ysbyty yn mynd i gael y cyfle i ehangu ei gapasiti o wasanaethau yn y dyfodol, gan fod llawer o'r gweithgarwch orthopedig oddi yno yn cael ei drosglwyddo i ysbyty Llandudno ar hyn o bryd.
"A wnewch chi ymuno â mi i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i glirio ei ôl-groniad trwy fuddsoddi yn Uned Llygaid Stanley er mwyn sicrhau bod ganddo'r gallu i ddarparu'r llawdriniaethau ychwanegol y mae pobl eu hangen mor daer?
"Ac a wnewch chi hefyd ymuno â mi i annog y GIG yn ehangach i ddefnyddio ei adnoddau'n fwy effeithlon trwy ei annog i wneud y ddwy lygad, os oes angen llawdriniaethau cataract ar bobl, ar yr un pryd, yn hytrach nag mewn apwyntiadau ar wahân, sy'n ymddangos i mi yn hurt ac yn wastraff adnoddau?"
Roedd y cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
derbyn argymhellion y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg ac ymrwymo i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i atal y gwasanaethau gofal llygaid rhag methu ledled Cymru;
b) pennu targedau a therfynau amser ar gyfer gwella ôl-groniadau rhestrau aros, gan sicrhau bod cleifion sy'n aros yn derbyn cyfathrebiadau am eu risg glinigol; a
c) cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu a chyflwyno'r system cofnodion ac atgyfeirio cleifion electronig.
Trechodd Llafur y cynnig.
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: