Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad yn tynnu sylw at brofiadau gwael cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes a gofal lliniarol, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r sefyllfa yng Nghymru.
Gan alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru yn ystod y Datganiad Busnes ddoe, cyfeiriodd Darren at adroddiad Marie Curie ar well gofal diwedd oes, a amlygodd nifer o ddiffygion wrth ddarparu'r math hwn o ofal, a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â nhw.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Fel gŵyr llawer o Aelodau o’r Senedd, fe gawsom ni gopi o adroddiad Marie Curie yn ddiweddar yn ymdrin â gofal gwell ar ddiwedd oes. Roedd hwnnw'n ystyried profiadau cleifion a gofal diwedd oes ledled Cymru a Lloegr. Yn anffodus, roedd rhai canfyddiadau pryderus o ran sefyllfa Cymru, gan gynnwys y ffaith bod 36 y cant o bobl yn dioddef poen enbyd neu aruthrol yn ystod eu hwythnosau olaf o fywyd, ac nad yw 19 y cant ag unrhyw gyswllt â'u meddyg teulu yn ystod tri mis olaf eu bywyd.
“Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn cytuno ynglŷn â'r angen sydd i fynd i'r afael â'r ystadegau hynny. Er bod datganiad Llywodraeth Cymru ar ansawdd gofal lliniarol a diwedd oes yn uchelgeisiol ac yn dda iawn ar bapur, mae hi'n bwysig, yn amlwg, bod hwnnw'n cael ei roi ar waith.”
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Darren:
"Yn ystod fy nghyfnod fel Aelod o'r Senedd, rydw i wedi clywed straeon cwbl dorcalonnus gan etholwyr lle nad yw anghenion a disgwyliadau cleifion a'u hanwyliaid wedi cael eu diwallu. Mae'n amlwg bod angen i bethau newid ac mae angen i hyn ddechrau nawr."