Daeth nifer sylweddol o drigolion Llysfaen ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus dan gadeiryddiaeth yr AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar ddydd Iau diwethaf, i drafod pryderon am y cynlluniau i gael gwared ar gludiant o'r cartref i'r ysgol rhwng y pentref ac Ysgol Bryn Elian yn Hen Golwyn.
O dan y cynlluniau, a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym mis Gorffennaf, mae tua 100 o ddisgyblion ysgol sy'n byw yn Llysfaen yn wynebu gorfod gwneud trefniadau amgen i gyrraedd yr ysgol.
Yn bresennol yn y cyfarfod, a gynhaliwyd yn Neuadd Bentref Llysfaen, roedd llawer o rieni a disgyblion pryderus, ynghyd ag aelodau eraill o'r gymuned leol. Hefyd yn bresennol roedd y Cynghorydd Phil Capper, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bryn Elian, a'r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Yn y cyfarfod, mynegodd rhieni bryderon am ddiogelwch y llwybrau teithio amgen a gynigiwyd gan y Cyngor: er ei fod wedi eu pennu’n ddiogel, maen nhw’n cynnwys lonydd gwledig heb balmentydd, yn ogystal â goleuadau stryd gwael.
Byddai hefyd yn cymryd mwy nag awr i’r plant gerdded ar hyd y llwybr hwn, tra bod peryglon pellach yn sgil y ffaith fod Llysfaen ar lethr, sy'n aml yn ei adael yn agored i dywydd gwael.
Cafodd pryderon rhieni eu cefnogi gan arbenigwr iechyd a diogelwch lleol, a fynegodd bryderon hefyd am asesiad yr awdurdod lleol o'r llwybrau teithio.
Yn y cyfamser, mae Arriva, sy'n rhedeg gwasanaethau bysiau lleol, wedi nodi nad oes ganddo'r capasiti i fynd â'r rhai yr effeithir arnyn nhw yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren: "Roeddwn i’n falch iawn o weld pobl ar draws cymuned Llysfaen yn y cyfarfod ddydd Iau a’r lle dan ei sang, ac o weld trigolion yn unedig yn erbyn y penderfyniad gwirion hwn gan y Cyngor
"Mae’n afresymol gofyn i rieni benderfynu a ydyn nhw am roi o’u hamser neu o’u harian i ddarparu cludiant amgen, neu ddweud wrth eu plant am dreulio dros awr yn cerdded i'r ysgol ar lwybrau peryglus. "Yn dilyn y cyfarfod hwn, hyderaf y bydd y cyngor yn awr yn gwerthfawrogi bod y pryderon lleol yn sylweddol ac yn eang."
Ychwanegodd Darren hefyd: "Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau cludiant o'r cartref i'r ysgol ledled Cymru, ac felly rydw i wedi galw ar y Cyngor i ohirio’i benderfyniad hyd nes y bydd adolygiad annibynnol o'r llwybrau wedi’i gynnal, ac y cyhoeddir canllawiau newydd."
Roedd Darren eisoes wedi siarad yn erbyn rhoi’r gorau i’r cludiant pan gyhoeddodd yr awdurdod lleol ei fwriad gwreiddiol.