Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi cymeradwyo rhaglen newydd sydd â'r nod o helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd.
Yn ddiweddar, ymwelodd Darren â'r rhai sy'n arwain y rhaglen Multiply sy'n cynnig mynediad hawdd at bob math o gyrsiau mathemateg AM DDIM ledled y Gogledd.
Roedd Darren yng nghwmni Tom Giffard AS, Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg yr Wrthblaid.
Meddai Darren:
“Roeddwn i’n falch iawn o fynd i Goleg Abergele i gael gwybod mwy am y prosiect newydd arloesol hwn sy'n agored i oedolion ledled y Gogledd.
“P'un a oes angen help arnoch i reoli'ch arian, cynorthwyo'ch plant gyda'u gwaith cartref neu os ydych chi am symud ymlaen yn y gwaith, gall rhaglen Multiply helpu.
“Mae wedi'i bwriadu'n bennaf ar gyfer trigolion Gwynedd, Ynys Môn, Conwy neu Sir Ddinbych 19+ oed nad ydyn nhw wedi ennill cymhwyster mathemateg lefel 2, h.y., TGAU Gradd C neu gyfwerth o leiaf.
“Mae'r meini prawf cymhwysedd wedi ehangu i gynnwys unigolion sydd wedi ennill cymhwyster mathemateg lefel 2 neu uwch ond nad ydyn nhw’n gweithio ar y lefel honno mwyach ac a hoffai wella eu sgiliau mathemateg.
“Gall cael y sgiliau hyn helpu pobl i gael swydd, symud ymlaen yn eu gyrfa, neu eu helpu i symud ymlaen i lefel uwch o ddysgu.
“Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, mewn gweithleoedd neu fel rhan o fenter dysgu i deuluoedd mewn ysgolion cynradd lleol.
“Mae'r cyrsiau hyn yn gyfle gwych i oedolion, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau rhifedd i gofrestru.”
Alex Carter - Cydlynydd Ymgysylltu â Phrosiectau Multiply”
Roedd hi’n wych croesawu Darren a'i dîm i'n campws yn Abergele a rhannu gwybodaeth am brosiect Multiply. Fel yr AS ar gyfer Gorllewin Clwyd, mae Darren yn rhanddeiliad pwysig yn y cymunedau rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw ac rwy'n siŵr y bydd cael ei gefnogaeth yn dod â llawer o bethau cadarnhaol i Multiply.
“Gwnaeth yr holl sesiynau amrywiol rydyn ni wedi'u cyflwyno i gannoedd o ddysgwyr ar draws y rhanbarth gryn argraff ar Darren a’r tîm a byddwn i'n annog unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau rhifedd i gysylltu. “
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Multiply: https://www.gllm.ac.uk/multiply