Heddiw, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu drwy'r cwricwlwm newydd i addysgu pobl ifanc am niwed gamblo problemus.
Wrth holi'r Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos hon, pwysleisiodd Darren hefyd yr angen am Glinig Gamblo cenedlaethol yng Nghymru.
Meddai:
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n gamblo yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i arbed pobl rhag niwed.
“Mae angen Clinig Gamblo Cenedlaethol arnom ni yng Nghymru, ac i fynd i'r afael â'r cynnydd mawr mewn siopau betio ar y stryd fawr ac yng nghanol ein trefi. Ond hefyd, mae angen i ni addysgu ein pobl ifanc, yn benodol, am niwed gamblo problemus.
“Pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd, drwy'r cwricwlwm newydd, i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r niwed a all gael ei achosi, yn enwedig trwy bethau fel arian crypto a'r systemau hapchwarae mae llawer o bobl yn eu defnyddio, a all edrych yn ddiniwed ond sydd wedi achosi cryn alar i lawer o bobl ledled y wlad? Ac a wnewch chi gefnogi gwaith sefydliadau fel Deal Me Out, sy'n gweithio mewn ysgolion yn y Gogledd, Beat the Odds, ac elusennau eraill ar y mater hwn?”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Darren:
“Mae gamblo gormodol yn argyfwng iechyd cyhoeddus nad yw braidd byth yn cael y sylw a'r adnoddau y mae'n eu haeddu a'u hangen.
“Mae'n broblem sy'n difetha bywydau unigolion a theuluoedd ledled y wlad ac sy'n cael effeithiau dinistriol ar gymdeithas, ac allith hi ddim bod yn iawn fod hadau gamblo problemus yn cael eu plannu mor ifanc i gynifer o'n plant a'n pobl ifanc.
“Mae her newydd yn ein hwynebu o ran amddiffyn ein plant rhag niwed gamblo problemus, a dyw hyn ddim yn golygu mewngofnodi ar wefan betio na cherdded i mewn i'r bwcis; dim ond consol gemau neu ap ar ffôn symudol sydd ei angen.
“Mae angen i ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i addysgu ein pobl ifanc am y peryglon posib.”