Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r problemau niferus y mae pobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn eu hwynebu wrth ailymgeisio am fathodyn glas a gofyn iddyn nhw gyflwyno Bathodyn Glas am oes i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n dirywio.
Mae etholwyr wedi cysylltu â Darren sy’n rhwystredig oherwydd y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu wrth geisio adnewyddu eu bathodyn glas.
Mae wedi dweud wrth Weinidogion ym Mae Caerdydd o'r blaen ei bod hi’n “hurt” bod gofyn i bobl anfon lluniau o'u cymhorthion cerdded, a nododd y gallai’r rheini fod yn perthyn i unrhyw un.
Yr wythnos hon, cododd y mater eto yn y Senedd a chynnig bod Bathodyn Glas am oes yn cael ei weithredu ar gyfer pawb sydd â chyflyrau iechyd sy'n dirywio.
Meddai:
“Rydyn ni’n gwybod bod canllawiau newydd wedi'u cyhoeddi i awdurdodau lleol, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod hyn yn datrys y problemau niferus y mae pobl yn fy etholaeth yn eu cael wrth ailymgeisio am eu bathodynnau glas.
“Pam ddylai rhywun sydd â chyflwr sy'n dirywio a oedd yn gymwys am fathodyn glas o'r blaen orfod mynd yn ôl yn barhaus, bob ychydig flynyddoedd, i ofyn am un arall? Mae'n ymddangos fel biwrocratiaeth ddiangen i mi.
“Os oes gan bobl gyflwr sy'n dirywio, dylen nhw fod yn gymwys am oes.”
Wrth ymateb, dywedodd Rheolwr Busnes Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, y byddai'n trafod cais Darren gyda chydweithwyr yn y Cabinet.