Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff chwaraeon i geisio datblygu rhaglen clwb chwaraeon ystyriol o'r lluoedd arfog yng Nghymru.
Wrth godi'r mater yn y Senedd, canmolodd Darren waith a wnaed yng Nghymru hyd yma i gynorthwyo teuluoedd a chyn-filwyr y lluoedd arfog ond dywedodd fod angen gwneud mwy.
Wrth alw am Ddatganiad ar ran Llywodraeth Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y lluoedd arfog, dywedodd:
“Yn ddiweddar, nodwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog ledled y DU, ac roedd gan lawer ohonom ni ddiddordeb brwd yn y gweithgareddau yn ein hetholaethau ein hunain. Rydym wedi bod yn falch iawn o weithio ar y cyd ar draws Siambr y Senedd dros y blynyddoedd ar gefnogi ein cyn-filwyr a chynnig cefnogaeth i deuluoedd ein lluoedd arfog, ac un o'r mentrau rydyn ni wedi bod yn falch iawn o'u gweld yn blodeuo yng Nghymru yw Rhaglen Ysgolion sy’n Croesawu'r Lluoedd Arfog.
“Ond yn ddiweddar fe wnaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid ymweld â Chanolfan Batttle Back y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Lilleshall, a chlywsom yno pa mor bwysig yw hi fod clybiau chwaraeon yn croesawu’r lluoedd arfog hefyd.
“Felly, tybed pa drafodaethau y gallai Ysgrifennydd y Cabinet eu cael gyda'r gwahanol gyrff chwaraeon, yn ogystal ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol, i geisio datblygu rhaglen clwb chwaraeon sy’n croesawu’r lluoedd arfog yma yng Nghymru, fel y gallwn fod ar y blaen unwaith eto ar draws y DU o ran darparu'r gefnogaeth orau un i'n teuluoedd a'n cyn-filwyr lluoedd arfog ledled y genedl wych hon.”
Dywedodd Rheolwr Busnes y Senedd wrth Darren y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn “hapus iawn i drafod y cyfle hwn i ddatblygu clybiau chwaraeon sy’n croesawu'r lluoedd arfog”.