Gyda hyb bancio newydd yn agor yn Abergele fis nesaf, cyfarfu AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, â LINK yr wythnos diwethaf i drafod y cyfleuster newydd a sut y bydd o fudd i drigolion lleol.
Mae hyb bancio’n ganolfan fancio a rennir, fel cangen banc draddodiadol ond ar gael i bawb.
Ar ôl i saith banc gau yn Abergele dros y blynyddoedd, bu Darren yn rhoi pwysau cyson ar LINK, rhwydwaith Mynediad at Arian ac ATM y DU, agor hyb yn y dref.
Felly, roedd wrth ei fodd yn gynnar y llynedd pan gyhoeddwyd bod Abergele’n un o'r trefi diweddaraf yn y DU i’w dewis ar gyfer hyb fel rhan o ymrwymiad ehangach i amddiffyn mynediad at arian parod.
Ers hynny, mae Darren wedi bod yn trafod y cyfleuster newydd yn gyson gyda LINK, ac yn ei gyfarfod diweddaraf, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf gyda Rheolwr Materion Cyhoeddus LINK Scheme Ltd, Adam Wilkinson, roedd agor y mis nesaf ar yr agenda, ynghyd â mynediad at arian parod a manteision hybiau bancio.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Er bod nifer o beiriannau ATM gerllaw a Swyddfa'r Post, nid oes banciau yn Abergele ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i drigolion deithio i Fae Colwyn neu'r Rhyl i ymweld â'u cangen, felly mae angen mawr am yr hyb hwn, a gwn fod trigolion yn edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn agor mewn ychydig wythnosau bellach.
“Mewn trefi lle mae hybiau wedi agor eisoes, maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn. Agorwyd Hyb Bancio Prestatyn cyn y Nadolig ac mae’n boblogaidd iawn ymysg trigolion o bob oed.
“Mae gan yr hybiau wasanaeth cownter lle gall cwsmeriaid o'r holl brif fanciau dynnu arian parod a thalu arian parod i mewn, talu biliau, a chyflawni trafodion bancio cyffredin. Hefyd, mae ganddyn nhw fannau preifat lle gall cwsmeriaid siarad â rhywun o'u banc eu hunain am faterion mwy cymhleth. Bydd y banciau’n gweithio ar sail rota, felly bydd staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol. Y nod yw y bydd holl brif fanciau'r ardal yn cymryd rhan yn y rota.
“Roedd hi'n dda dal i fyny gyda LINK i drafod yr Hyb Bancio newydd sydd ar fin agor yn 67 Stryd y Farchnad, yr hen fanc Barclays, a diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod pobl yn dal i allu cael gafael ar arian parod yn hawdd.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr hyb newydd yn agor yn Abergele yn fuan iawn a byddaf yn rhoi gwybod i breswylwyr unwaith y bydd yr union ddyddiad wedi'i gadarnhau.”