Cafodd Darren Millar, yr AS dros Orllewin Clwyd, deithio’n ôl mewn amser i gyfnod cyn iddo gael ei eni pan aeth i ymweld ag atyniad hirsefydlog yn Ninbych yr wythnos diwethaf.
Ddydd Gwener, ymwelodd Darren ag Amgueddfa’r 1950au yng Nghae Dai yn Ninbych, casgliad preifat o arteffactau a memorabilia yn ymwneud â'r 1950au yn perthyn i 'Sparrow' Harrison MBE.
Mae gan y casgliad bopeth o fywyd cartref a siopau, adloniant a ffilmiau a hyd yn oed bar coffi a ‘juke box’ o'r 1950au. Mae yna fferm weithredol, perllan gymunedol, teithiau cerdded drwy’r coetir ac ardal bicnic hefyd.
Meddai Darren:
“Roeddwn i wedi clywed llawer o bethau gwych am gasgliad Sparrow ac roeddwn i'n awyddus i'w weld drosof fi fy hun.
“Cefais fy synnu gan faint o arteffactau gwych oedd ganddo i'w gweld, gan gynnwys eitemau o fyd adloniant, trosedd a chwaraeon, yn ogystal â cheir clasurol, ystafelloedd wedi’u dodrefnu, brandiau groser a llawer o eitemau gwych eraill o'r 50au ffynci a thu hwnt.
“Mae'n drysorfa go iawn ac fe allech chi dreulio oriau yno’n edrych ar yr arddangosfeydd.
“Mae'r casgliad wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd gyda llawer o roddion gan bobl hefyd.
“Dywedwyd wrthyf fod yr amgueddfa'n denu ymwelwyr lleol a chenedlaethol, a'u bod yn derbyn llawer o adolygiadau busnes cadarnhaol ar Google gydag ymwelwyr yn dweud eu bod wrth eu bodd gyda’r Amgueddfa, y croeso y maen nhw’n ei dderbyn, a'r atgofion a gânt yno.
“Mae'r amgueddfa'n croesawu ymweliadau grŵp, ac ar hyn o bryd maen nhw’n ystyried y syniad o ysgolion yn ymweld fel rhan o'r cwricwlwm.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy'n darllen hwn sydd heb ymweld â'r amgueddfa eisoes, i sicrhau eu bod yn mynd – gallaf eu sicrhau na fyddan nhw’n cael eu siomi.
“Mae'r hyn mae Sparrow wedi'i greu yn rhyfeddol ac rwy'n diolch iddo am ddarparu'r atyniad unigryw hwn i ymwelwyr yn Sir Ddinbych, ac am fy ngwahodd i ymweld a dangos yr amgueddfa i mi.”