Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi lleisio pryderon yn y Senedd ynghylch effaith negyddol terfyn cyflymder cyffredinol 20 mya Llywodraeth Lafur Cymru ar yr economi ymwelwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Cafodd y terfyn newydd dadleuol ei gyflwyno fis Medi diwethaf ac mae adroddiad diweddar wedi canfod ei fod yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth.
Yng nghyfarfod y Senedd heddiw, galwodd Darren am Ddatganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r adroddiad a phwysodd ar Weinidogion i weithredu i amddiffyn niferoedd ymwelwyr i Gonwy a Sir Ddinbych.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes, dywedodd:
“A gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch chi’n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg mewn perthynas â'r adroddiad gan Croeso Cymru yr wythnos diwethaf, a ganfu fod pobl yn cael eu darbwyllo i beidio dod i Gymru fel ymwelwyr oherwydd polisi terfyn cyflymder cyffredinol 20 mya Llywodraeth Lafur Cymru?
“Mae hyn yn bryder mawr i bobl yn y Gogledd, yn enwedig yng Nghonwy a Sir Ddinbych, sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr, ac mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i sicrhau nad ydym ni’n gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i ddal ati gyda’r polisi hurt hwn.”
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd Jane Hutt AS mai prif amcan y polisi 20 mya yw “achub bywydau a lleihau anafiadau ar ein ffyrdd”, gan ychwanegu “dyna mae ein hymwelwyr ei eisiau pan maen nhw'n dod i Gymru”.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Twristiaeth yw bara menyn ein heconomi leol yng Nghonwy a Sir Ddinbych a dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru bryderu'n fawr am ganfyddiadau'r adroddiad hwn gan Croeso Cymru a gweithredu arno.
“Dim ond nawr mae llawer o fusnesau twristiaeth yn dod dros Covid; dyw terfynau cyflymder 20mya ddim yn eu helpu nhw!”