Gyda system ailgylchu newydd Cyngor Sir Ddinbych yn dod i rym ddydd Llun (3 Mehefin), mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn rhybuddio trigolion i baratoi ar gyfer llanast.
Mae'r cyngor yn cyflwyno system trolibocs newydd, sy'n cynnwys cynwysyddion newydd, casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu, a chasgliad bob pedair wythnos ar gyfer pob gwastraff arall.
Ers i'r newid gael ei grybwyll am y tro cyntaf, mae Darren wedi siarad yn erbyn y system newydd, ar ôl bod yn dyst i'r problemau y mae wedi'u hachosi yng Nghonwy, lle mae wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn.
Meddai:
“Er mawr siom i breswylwyr, daw'r system newydd hon i rym o ddydd Llun ymlaen. Rwyf wedi darllen y cannoedd o bryderon eisoes ar y cyfryngau cymdeithasol ac rwy'n disgwyl y bydd llawer mwy ar ôl iddi ddod i rym.
“Mae'n mynd i fod yn llanast llwyr a dwi'n disgwyl y bydd y cyngor yn cael ei bledu gyda chwynion o ddydd Llun ymlaen.
“Fel finnau, mae trigolion yn rhyfeddu pam y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn gwario cymaint o arian yn newid ei system ailgylchu, pan oedd ganddo un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru eisoes.
“Rwy'n gwybod bod llawer o drigolion oedrannus ac anabl yn arbennig yn poeni am y system newydd a sut y byddant yn llwyddo i gael gwared ar eu hailgylchu i'r trolibocs, gyda’r ddau gynhwysydd isaf yn agos iawn at y ddaear.
“Mae eraill yn poeni am y casgliad misol o wastraff na ellir ei ailgylchu a fydd yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon, arogleuon, problemau gyda phlâu, a risgiau i iechyd y cyhoedd.
“Pan gyflwynwyd y newidiadau hyn ar draws Conwy, roedd y trigolion yn ddig iawn, ac er bod y system wedi bod ar waith yn y sir ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, mae'n amhoblogaidd o hyd.
“Dyw casgliadau biniau bob pedair wythnos ddim yn dderbyniol, ac mae’n ddealladwy bod trigolion yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg gan Gyngor sy'n cwtogi eu gwasanaethau ond heb dorri eu biliau treth gyngor i'w digolledu – y gwir amdani yw eu bod nhw’n eu codi'n sylweddol.
“Ni ofynnwyd i drigolion am eu barn, yn hytrach mae hwn yn benderfyniad arall gan swyddogion ac Aelodau'r Cabinet sy'n credu mai nhw sy’n gwybod orau.”
Ychwanegodd Darren, a arweiniodd ymgyrch yn erbyn y casgliad biniau bob pedair wythnos yng Nghonwy:
“Dim ond y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun ar gyfer 'Ailgylchu Symlach' i gynghorau yn Lloegr, gyda chynghorau’n cael casglu plastig, metel, gwydr, papur a cherdyn mewn un bin, yr un fath â hen system Sir Ddinbych, ac mae cynghorau'n cael cymorth i gyflwyno casgliadau biniau amlach a mwy cynhwysfawr.
“Rwy'n credu mai mater o amser fydd hi cyn i Gyngor Sir Ddinbych sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad enfawr.”