Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar wedi mynegi ei siom y bydd HSBC yn cau eu cangen ym Mae Colwyn yn barhaol ym mis Medi eleni, ond mae'n falch y bydd y banc yn rhan o'r ganolfan fancio newydd a fydd yn agor yn Abergele cyn bo hir.
Ym mis Tachwedd 2022, rhoddodd y banc wybod i Darren a'u cwsmeriaid am eu penderfyniad i gau'r gangen ac mae wedi cadarnhau erbyn hyn mai'r dyddiad cau fydd 10 Medi 2024.
Wrth ymateb, dywedodd Darren:
“Roeddwn i’n drist iawn o glywed yn ôl yn 2022 y byddai HSBC yn cau eu cangen ym Mae Colwyn.
“Ar y pryd ysgrifennais at y banc yn tynnu sylw at fy mhryderon ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar drigolion a busnesau.
“Mae'r gangen agosaf dros saith milltir i ffwrdd yn Llandudno, sy'n gryn bellter i bobl, yn enwedig yr henoed, deithio, os ydyn nhw am weld rhywun wyneb yn wyneb.
“Fodd bynnag, roedd y banc yn bendant eu bod yn bwrw ymlaen â’r bwriad i gau, gan ddweud bod cau’r holl ganghennau oherwydd “gostyngiad o fwy na 50% yn nifer y cwsmeriaid yn y rhan fwyaf o'r canghennau “.
“Rwy'n gwerthfawrogi ac yn diolch i'r banc am oedi cyn cau'r banc, roedd y banc i fod i gau yn wreiddiol ar 15 Awst y llynedd, ac rwy'n falch y bydd HSBC UK yn rhan o'r Ganolfan Fancio newydd fydd yn agor yn Abergele ym mis Mehefin eleni, lle bydd cwsmeriaid HSBC yn gallu siarad yn wyneb yn wyneb â chynrychiolydd o'r banc bob dydd Mawrth.
“Maen nhw wedi gosod Pod Arian yng Nghanolfan Siopa Bayview ym Mae Colwyn hefyd, a fydd yn weithredol cyn i'r gangen gau.
Bydd y Pod Arian yn darparu mynediad di-ffi at arian parod 24 awr y dydd i gwsmeriaid a phobl nad ydyn nhw’n gwsmeriaid fel ei gilydd, ac yn galluogi cwsmeriaid HSBC UK i roi arian parod yn eu cyfrifon yn gyfleus. Bydd y Pod Arian yn galluogi cwsmeriaid i wirio balans eu cyfrif, argraffu cyfriflenni bach, actifadu cerdyn, ailosod PIN, a gwneud taliadau sy'n gysylltiedig â'u cerdyn credyd HSBC UK hefyd.
“Bydd y banc yn cynnal digwyddiadau Cymunedol yn y cyfnod cyn cau'r banc hefyd, ac am sawl wythnos wedi hynny. Bydd y rhain yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol a byddant yn cael eu hysbysebu yma. Bydd cwsmeriaid yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb ag arbenigwyr eu cangen, a fydd yn cynnig cymorth gyda bancio digidol, cyfrifon sydd ar gael, gwasanaethu, a chofrestru bancio ar-lein, ymhlith gwasanaethau eraill.
“Dwi wedi bod yn feirniadol iawn o fanciau yn cefnu ar y stryd fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn anffodus mae'n ymddangos ei fod yn arwydd o’r byd sydd ohoni. Felly, rwy'n annog cwsmeriaid HSBC i fanteisio ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael ac ystyried newid i fanciau sy'n bresennol ar eu stryd fawr leol.”