Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru'r Wrthblaid, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi cyfran deg o fuddsoddiad i’r Gogledd.
Mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates AS, yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Darren fod y Gogledd wedi bod ar ei cholled ers blynyddoedd a'i bod yn bryd gwneud iawn am yr annhegwch hwn.
Wrth ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod y Gogledd yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Darren:
“Mae setliadau llywodraeth leol yn waeth yng ngogledd Cymru fel arfer. Rydym yn gweld diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith ffyrdd yn y gogledd. Rydych yn adeiladu ysbytai newydd yn y de, ond nid yn y gogledd.
“Dyna hanes y Llywodraeth hon, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch chi fel Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy’n cynrychioli etholaeth yn y gogledd, newid hynny.
“Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei hagenda ffyniant bro, ac mae'n awyddus i godi’r gwastad ledled y DU gyfan, gan gynnwys y Gogledd.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gael agenda ffyniant bro yng Nghymru, ond nid dyna’r realiti, oherwydd gadewch inni ystyried y gwahaniaeth, er enghraifft, rhwng gwariant yng ngogledd Cymru a de Cymru, dim ond ar y prosiectau metro. Mae metro de Cymru wedi cael dros £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae cyfres o brosiectau seilwaith mawr eisoes yn mynd rhagddynt mewn mannau eraill yn y de. Yn y gogledd, dim ond £50 miliwn a ddyrannwyd i’r prosiect metro yno ac mae cynlluniau ffyrdd wedi’u canslo.
“Nawr, hyd yn oed wrth ystyried y gwahaniaethau mewn poblogaeth, mae'r de yn dal i gael mwy na phum gwaith y buddsoddiad y pen - pum gwaith - na'r gogledd. Nid yw hynny'n ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud i fynd i’r afael â’r annhegwch difrifol hwnnw?”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Dyw'r rhaniad rhwng y Gogledd a'r De, sy’n cael ei barhau gan y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, erioed wedi bod yn waeth.
“P'un a yw'n fuddsoddiad mewn ffyrdd, metro neu ganol trefi, mae'n ymddangos bod y Gogledd yn dod yn ail i'r De bob amser.
“Mae'n gwbl annerbyniol bod gweinidogion Llafur yn trin y rhanbarth fel hyn.
“Mae angen deddfwriaeth arnom i sicrhau bod pob rhan o Gymru’n derbyn eu cyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid dim ond yr ardaloedd hynny sy'n cael eu ffafrio gan y Blaid Lafur.
“Dyw hi ddim yn iawn bod Llywodraeth Lafur yn parhau i ffafrio ei chadarnleoedd deheuol yn hytrach na lledaenu cyllid yn decach ledled Cymru.”