Mae Darren Millar AS dros Orllewin Clwyd wedi canmol elusen yn y Rhyl sy'n cefnogi mamau ifanc a'u babanod am bopeth y mae wedi'i gyflawni ers ei ymweliad diwethaf lai na 12 mis yn ôl.
Fis Gorffennaf diwethaf, ymwelodd Darren â’r tîm yn Blossom and Bloom, sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan Whie Rose yn y Rhyl, i ddysgu mwy am yr elusen a sefydlwyd bedair blynedd yn ôl.
Yr wythnos diwethaf, ymwelodd â'u canolfan ddatblygu newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith ac roedd yn falch o glywed a gweld bod yr elusen yn ffynnu yn dilyn ehangu’n ddiweddar.
Wrth sôn ar ôl ei ymweliad, dywedodd Darren:
“Roedd hi'n bleser gwirioneddol ailymweld â Blossom and Bloom wythnos diwethaf. Maen nhw’n dîm gwych, ymroddgar, dan arweiniad Vicky Welsman-Millard, sy’n cynnig croeso cynnes bob amser a dydw i ddim yn synnu bod cymaint mwy wedi'i gyflawni ers i mi fod yma ddiwethaf.
“Dim ond y mis diwethaf fe wnaethon nhw agor eu hail ganolfan yng Nghanolfan White Rose y dref. Mae hyn yn dilyn llwyddiant eu 'canolfan lesiant', a agorwyd 12 mis yn ôl.
“Mae'r ganolfan ddatblygu’n cynnig gofod dysgu a datblygu ar wahân, i ffwrdd o brysurdeb y ganolfan wreiddiol, sy'n parhau i ddarparu caffi galw heibio, siop cyfnewid ac ardal chwarae boblogaidd i famau, tadau a babanod.
“Mae'n cynnig hyfforddiant, cyrsiau a chyfleoedd menter i famau mewn manwerthu a harddwch.
“Dywedodd y tîm wrtha'i ei fod wedi'i greu gydag un nod – i rymuso a rhoi hwb i unigolion a busnesau. Mae'n cael ei ddisgrifio ganddyn nhw fel y gyrchfan ddelfrydol i wireddu’ch potensial llawn.
“Sicrhawyd arian ar gyfer y ganolfan newydd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Conwy a Sir Ddinbych, Fferm Wynt Gwynt y Môr a llawer o noddwyr, gan gynnwys Clwb Rotari y Rhyl, Inner Wheel, Lolfa Torello a Starbucks Rhuddlan.”
Ychwanegodd Darren:
“Roedd yn dda cael y cyfle i longyfarch Vicky a gweddill y tîm am y gwaith amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud. Maen nhw’n grŵp mor dosturiol a gweithgar, ac rwy'n hyderus y byddan nhw’n parhau i ffynnu a datblygu'r elusen ymhellach. Pob llwyddiant iddyn nhw wrth symud ymlaen.”
O'r ganolfan ddatblygu, sydd gyferbyn â'r gwaith yng Nghanolfan White Rose, mae Blossom and Bloom yn rhedeg cwrs Arian, Rhifau a Mathemateg (dydd Iau 1-3pm), sy'n helpu i greu cyllideb ar gyfer gwariant eich cartref.
Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i unrhyw oedolion a allai elwa arno, a gwahoddir mamau, tadau a gwarcheidwaid i fynychu'r cwrs hwn. Does dim angen archebu lle.
I gael rhagor o wybodaeth am Blossom and Bloom a'r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu, ewch i Mother & Baby Well-Being Support | Rhyl (blossomandbloom.org.uk)