Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn cael eu trin mor agos â phosib at adref, gan dynnu sylw at achos etholwr a gafodd ei anfon i Durham gan nad oedd gwelyau iechyd meddwl ar gael yn y rhanbarth.
Fe wnaeth Darren godi'r mater mewn cyfarfod o Senedd Cymru wrth alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar “y gost sylweddol o leoli pobl â phroblemau iechyd meddwl y tu allan i Gymru”.
Meddai:
“Rydyn ni'n gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn nhri mis cyntaf eleni, wedi gwario dros £3.5 miliwn yn anfon cleifion iechyd meddwl o’r Gogledd i gael gofal mewn rhannau eraill o Brydain. Fe gysylltodd etholwr â mi 'nôl ym mis Chwefror, i ddweud bod aelod o'i deulu wedi ei anfon i Durham am wely iechyd meddwl am nad oedd lle ar gael yng ngogledd Cymru.
“Yn amlwg, mae hynny'n annerbyniol. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael eu trin mor agos â phosibl at adref. Rwy'n derbyn bod pobl angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, ond roedd hwn yn wely iechyd meddwl cyffredinol i gleifion mewnol, a dylai hynny fod wedi bod ar gael yma yn y Gogledd.
“Rwy'n bryderus iawn nad oes capasiti yn ein GIG, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i allu gofalu am gleifion iechyd meddwl yn y rhanbarth.”
Wrth ymateb, cyfaddefodd y Trefnydd, Jane Hutt AS bod “pwysau ar wasanaethau”, ond dywedodd bod y rhain “yn cael sylw”.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Prin fod geiriau'r Gweinidog yn fawr o gysur i'r cleifion a'u hanwyliaid sydd wedi'u heffeithio gan y pwysau hwn.
“Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl angen eu teulu gerllaw am gymorth, nid taith dair awr i ffwrdd.
“Dylai fod gan ogledd Cymru y cyfleusterau a'r gwelyau i ddiwallu anghenion cleifion. Ni ddylai unrhyw berson sâl orfod teithio cannoedd o filltiroedd i gael triniaeth.”