Wrth ymateb i'r bleidlais cam 4 ar Ddiwygio'r Senedd yn Senedd Cymru heddiw, meddai Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros y Cyfansoddiad:
”Mae hwn yn ddiwrnod trist i ddemocratiaeth Cymru; senedd fwy, newidiadau mawr i'r system bleidleisio, ond dim refferendwm i bobl Cymru.
“Y cynllun £120 miliwn ar gyfer mwy o wleidyddion, mwy o swyddfeydd ffansi a Senedd fwy yw'r lleiaf o flaenoriaethau pobl Cymru, ond dyna beth mae Llafur a Phlaid wedi’i wthio drwodd heddiw.
“Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto – mae gwir angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid cynlluniau Llafur a Phlaid i wario miliynau ar fwy o wleidyddion.”
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS:
“Mae penderfyniad Llafur a Phlaid i wastraffu cymaint o amser ac arian yn creu 36 yn fwy o wleidyddion yn embaras cenedlaethol.
“Mae ein GIG yng Nghymru ar ei liniau, mae cyrhaeddiad addysgol yn disgyn a'r niferoedd mewn gwaith yn gostwng o hyd, ond y prosiect hunanbwysig hwn yw prif flaenoriaeth Llafur a Phlaid Cymru.
“Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthdroi'r cynlluniau hyn ac yn gwario'r arian ar ein gwasanaeth iechyd yn lle hynny.”