Mae AS Gorllewin Clwyd a Hyrwyddwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer y Wiwer Goch, Darren Millar, wedi herio'r Prif Weinidog ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo brechlyn brech y gwiwerod i wiwerod coch.
Mae brech y gwiwerod yn feirws sy'n achosi clefyd angheuol ac mae’n effeithio ar lawer o wiwerod coch.
Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, dywedodd Darren bod peidio â gweithredu i amddiffyn rhag y feirws yn rhwystro ymdrechion cadwraeth ledled Cymru.
Felly, gofynnodd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo brechlyn.
Meddai:
"Mae’r wiwer goch yn un o'r rhywogaethau prin yng Nghymru sy'n cael ei heffeithio gan golli bioamrywiaeth ac, fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn y Senedd, byddai'n amhriodol i mi beidio â gofyn i'r Prif Weinidog newydd pa gamau y mae ei Lywodraeth yn eu cymryd i hyrwyddo brechlyn ar gyfer gwiwerod coch mewn perthynas â brech y gwiwerod.
"Bydd yn gwybod bod hwn yn glefyd peryglus iawn, sy'n achosi cryn dipyn o bryder ymhlith y gymuned sy'n cefnogi gwiwerod coch. Gallai rwystro ymdrechion cadwraeth ledled Cymru yn ddifrifol, yn enwedig ar Ynys Môn, lle rydyn ni wedi gweld achosion lawer yn y gorffennol, ac mae pobl yno yn bryderus iawn ac am amddiffyn poblogaeth y gwiwerod coch sydd yno’n barod.
"Cynhaliwyd dadl Pwyllgor Deisebau y llynedd ar yr union bwnc hwn, a, bryd hynny, rhoddodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am fioamrywiaeth ymateb a oedd yn awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda Llywodraethau eraill y DU i geisio cyflwyno brechlyn. A gaf i ofyn pa gynnydd sydd wedi'i wneud?"
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
"Yn gyntaf, rwyf am gydnabod rôl Darren Millar yn hyrwyddo achos y wiwer goch, ac, yn arbennig, wrth gwrs, cadarnle mwyaf arwyddocaol y wiwer goch yng Nghymru yw Ynys Môn.
"O ran heriau brech y gwiwerod, rwyf wedi gweld briff ar hyn. Ni allaf gofio manylion y gwaith sy'n cael ei wneud rhwng Llywodraethau yn y DU, ond rwy'n fwy na pharod i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod, a hefyd sicrhau bod copi ar gael drwy'r llyfrgell, fel y gall Aelodau eraill ei weld hefyd, os ydyn nhw am weld y diweddariad ymarferol hwnnw."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Heb y camau priodol i warchod ein bywyd gwyllt yma yng Nghymru, rydyn ni mewn perygl o achosi niwed di-droi’n-ôl i'n treftadaeth naturiol. Mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu ein hamgylchedd a chefnogi dyfodol y wiwer goch a bywyd gwyllt eiconig arall yng Nghymru."