Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi llongyfarch Ysgol Rydal Penrhos ym Mae Colwyn ar ei gydnabyddiaeth yng Ngwobrau Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn 2024.
Rhoddir y Gwobrau i gydnabod gwaith eithriadol a wneir i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.
Rhoddodd Darren, sy'n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, air o groeso yn y seremoni wobrwyo ddydd Mercher 17 Gorffennaf.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:
"Mae'n wych gweld Ysgol Rydal Penrhos ymhlith nifer cynyddol o sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i’w dyletswydd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.
"Mae'r ysgol wedi gwneud gwaith arbennig o dda i gefnogi teuluoedd milwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Llongyfarchiadau mawr i'r Ysgol ar eich Gwobr Arian; hyderaf y byddwch yn cael gwobr aur yn fuan!"
Ymhlith y 18 enillydd arall oedd Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol Wrecsam.
Cynhaliwyd y seremoni yn Adeilad Pierhead Bae Caerdydd, ac roedd Saliwt Gwn Brenhinol yn cyd-fynd â hi i nodi pen-blwydd Ei Mawrhydi'r Frenhines.