Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi ymateb i adroddiad cynnydd Mark Drakeford ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Meddai:
"Ni ddylid trin pobl y Gogledd fel ffyliaid.
"Waeth faint mae Llywodraeth Cymru yn ceisio celu’r gwir am gynnydd Betsi, mae profiadau ein cleifion, a rhai ein hanwyliaid, yn datgelu’r gwir.
"Dyw’r mesurau arbennig ddim yn gweithio a gorau po gyntaf y cawn ymchwiliad annibynnol i'r methiannau yn y GIG yn y Gogledd."
Ychwanegodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Sam Rowlands:
"Er efallai bod gennym ni Brif Weinidog newydd a Gweinidog Iechyd newydd, yr un yw’r stori o ran Betsi.
"Does dim goleuni o hyd ym mhen draw’r twnnel o ran dyddiad targed ar gyfer tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig, ac mae pobl y Gogledd yn cael eu methu byth a hefyd.
"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau'r GIG y mae Cymru yn ei haeddu drwy sicrhau ei fod wedi'i staffio'n llawn, wedi'i ariannu'n briodol a'i amddiffyn yn drylwyr."