Ymwelodd Darren Millar AS Gorllewin Clwyd a Hyrwyddwr Rhywogaeth y Wiwer Goch yn y Senedd, â Choedwig Clocaenog yr wythnos hon i fwrw golwg ar y gwiwerod coch a gafodd eu rhyddhau yn y goedwig wythnos ynghynt.
Cafodd y gwiwerod eu geni yn gynharach eleni ym Mae Colwyn fel rhan o raglen fridio o bwys cenedlaethol yn Sw Mynydd Cymru.
Agorwyd y caeadau i ryddhau'r gwiwerod ar 12 Rhagfyr, a dydd Mawrth, aeth Darren i'r goedwig i wylio camerâu gwyliadwriaeth y gwiwerod a monitro'r llociau.
Mae'r deorfeydd yn parhau ar agor am bythefnos ar ôl eu hagor, er mwyn i'r gwiwerod coch allu dychwelyd a pharhau i ddefnyddio'r blychau nythu a'r bwyd yn y lloc, wrth ddod i arfer â'r amgylchedd naturiol.
Meddai Darren:
“Ar un adeg roedd tua 3.5 miliwn o wiwerod coch yn y DU, ffigwr sydd wedi gostwng yn sylweddol i’r lefel isaf erioed, sef tua 120,000. Mae ffactorau amrywiol wedi cyfrannu at y gostyngiad yn y niferoedd, gyda chyflwyno'r Wiwer Lwyd wedi cael yr effaith fwyaf, drwy ledaenu clefydau, defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael, ac atgenhedlu'n gyflym.
“Ers dechrau'r 1970au mae Sw Mynydd Cymru wedi bod yn ailasesu natur ei chasgliad o anifeiliaid, mewn ymateb i anghenion cadwraeth bywyd gwyllt,
“Mae hyn wedi galluogi'r Sw i ymuno â rhai o'r rhaglenni bridio cydweithredol sy'n datblygu rhwng sŵau, sy'n cwmpasu bob math o rywogaethau, gan gynnwys y wiwer goch, ac ym mis Medi ymwelais â'r sw i weld y gwiwerod coch a thrafod y rhaglen fridio a'r broses o’u rhyddhau i Goedwig Clocaenog.
“Ar ddiwedd y 1990au, roedd yn ymddangos mai coedwig Clocaenog oedd cartref y boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yn y wlad. Ond erbyn 2011, daeth i'r amlwg bod y niferoedd wedi gostwng yn aruthrol.
“Felly, fel Hyrwyddwr Rhywogaeth y Wiwer Goch yn y Senedd, rwy'n croesawu pob ymdrech i hybu niferoedd yn y goedwig ac yn diolch i Sw Mynydd Cymru am eu rôl allweddol yn hyn o beth, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog. Y wiwer goch yw un o'n hanifeiliaid brodorol mwyaf annwyl, a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu'r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad.”