Yn dilyn cyhoeddi fframwaith mesurau arbennig newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am ystyried lefelau cwynion yn y fframwaith hwn.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru y fframwaith, sy'n amlinellu'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd eu bodloni cyn y gellir codi mesurau arbennig, ar 12 Gorffennaf.
Mae'r Bwrdd Iechyd cythryblus wedi bod dan fesurau arbennig, y lefel uchaf o ymyrraeth y Llywodraeth yn y GIG yng Nghymru, ers mis Chwefror 2023, er ei fod hefyd wedi treulio rhwng Mehefin 2015 a Thachwedd 2020 o dan yr un mesurau.
Wrth siarad yn Natganiad a Chyhoeddiad Busnes y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Darren:
"Gallan nhw [cwynion] fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer nodi problemau a gweld a ph’un a yw pethau wir yn cael sylw.
“Mae angen i'r Bwrdd Iechyd, a dweud y gwir, fynd i’r afael â chwynion, sicrhau ei fod yn dysgu ohonyn nhw, ac mae angen triongli hynny i’r prosesau gwneud penderfyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol amdanyn nhw.
Tynnodd Darren sylw hefyd at yr anghysondeb mewn gwasanaeth rhwng meddygfeydd a reolir a meddygfeydd practis cyffredinol yn ei gyfraniad:
"Mae gennym ni dipyn o loteri cod post yng ngogledd Cymru, gyda nifer o bractisau sydd bellach yn bractisau wedi’u rheoli, yn hytrach na'n cael eu rhedeg o dan gontractau practis cyffredinol, ac mae'n ymddangos bod y gwasanaethau yn y practisau hynny’n llawer gwaeth nag mewn meddygfeydd lleol eraill."
"Er enghraifft, nid yw brechiadau syml ar gael yn y practis ym Mae Colwyn, yng Nghanolfan Feddygol y West End, yn fy etholaeth fy hun."
Mewn ymateb, dywedodd Trefnydd Llywodraeth Cymru:
"Mae hwn yn gwestiwn adeiladol iawn, rwy'n credu, o ran sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o ddealltwriaeth o’r effeithiau ar ddinasyddion-cleifion yn y fframwaith ymyrraeth dad-ddwysáu."
"Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, yn barod i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig, wrth gwrs, o ran y datganiadau y mae Betsi Cadwaladr wedi’u gwneud."