Mewn dadl deimladwy yn y Senedd ddoe, fe wnaeth Darren Millar AS Gorllewin Clwyd dalu teyrnged i ddioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor. a dywedodd "y bydd pobl Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo pobl Wcráin”.
Yn y ddadl, cyflwynodd Darren, ac Aelodau eraill o'r Senedd, gynnig sy'n argymell bod y Senedd:
1. Yn cofio dioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor a’r cysylltiad hanesyddol â Chymru drwy adroddiadau Gareth Jones.
2. Yn cydnabod cyfraniadau ac ymroddiad y grŵp ‘Senedd dros Wcráin’.
3. Yn ymrwymo i undod parhaus gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin.
Wrth siarad yn y ddadl, cofiodd Darren y miliynau a fu farw yn ystod newyn 1932-33 yn Wcráin a dywedodd fod yn rhaid gwneud mwy i addysgu pobl am yr Holodomor.
Dywedodd:
“A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth, ac, yn wir, i'r pleidiau gwleidyddol eraill, am y ffordd y buont yn cydweithio i gyd-gyflwyno'r ddadl hon rhyw 12 mis ar ôl cydnabyddiaeth y Senedd hon, un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i gydnabod yr Holodomor yn hil-laddiad?
“Wrth gwrs, pennod o hanes sydd am lawer rhy hir yn y gorllewin heb ei chydnabod yw'r Holodomor, ac roedd yn stori na ddywedwyd. Dioddefodd tua 3 miliwn i 4 miliwn, o leiaf, o'r newyn hwnnw, un o golledion gwaethaf bywyd yn hanes dyn, ac, wrth gwrs, yn ddealladwy, oherwydd hynny, mae'n adeg ddiffiniol i genedl Wcráin.”
“Ond nid colledion bywyd damweiniol oedden nhw, roedden nhw'n hollol fwriadol. Fe'u hachoswyd yn fwriadol i bobl Wcráin gan gyfundrefn Sofietaidd dan reolaeth Stalin a oedd yn dilyn nod o ddiwydiannu'n ddidrugaredd ni waeth beth oedd y gost ddynol ac a sbardunodd gyfunoli tir fferm ac atafaelu grawn ar raddfa dorfol. Canlyniad hynny oedd i'r tir ffrwythlon iawn a hynod gynhyrchiol hwn yn yr hyn a elwir bellach yn fasged bara Ewrop ddod yn destun un o'r newynau gwaethaf mewn hanes.
“Wrth gwrs, nid y newyn yn unig oedd yn dystiolaeth o ymdrechion hil-laddol y gyfundrefn Sofietaidd; erlidwyd y deallusion, yr arweinwyr ffydd, ymosodiadau ar eglwysi ac eraill yn y tir hwnnw hefyd, ac ar unrhyw wrthwynebwyr gwleidyddol a oedd yn siarad yn erbyn y gyfundrefn Sofietaidd.”
Aeth Darren ymlaen i gyfeirio at rôl Gareth Jones, Cymro a oedd, yn y 1930au, â rhan hanfodol yn yr ymdrech i ddatgelu'r Holodomor a'r hyn a oedd yn digwydd yn Wcráin i weddill y byd.
Dywedodd:
“Des i'n ymwybodol o'i waith am y tro cyntaf ar ôl gwylio'r ffilm Mr Jones yn 2019. Doedd gen i ddim syniad mai Cymro oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatgelu'r hyn oedd wedi digwydd nes i mi weld y ffilm honno, ac mae hynny'n drasiedi. Mae hynny'n drasiedi nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu dysgu am y pethau hyn, ddim yn cael eu haddysgu am gyfraniad pwysig newyddiadurwyr Cymru. Wrth gwrs, talodd gyda'i fywyd ei hun yn y diwedd, pan ddioddefodd yr hyn a ystyrir yn ymgais i'w lofruddio ym Mongolia Fewnol oedd dan oresgyniad Japan ym 1935, gan y gyfundrefn Sofietaidd. A bydd pob un ohonom ni, heb os, yn y Siambr hon eisiau talu teyrnged i'w gof yma yn y Siambr hon heddiw.
“Gwn fod grŵp Y Senedd dros Wcráin, dan arweiniad Mick Antoniw, gydag Alun Davies ac eraill yn cefnogi wrth gwrs, eisoes wedi sicrhau'r caniatâd i godi plac yn Wcráin i nodi rôl Gareth Jones a'i waith wrth ddatgelu'r hyn oedd yn digwydd gyda'r Holodomor.”
Ychwanegodd Darren:
“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i anfon y neges bod Cymru'n caru Wcráin, ein bod yn cefnogi ei hymgais am ryddid, y bydd pobl Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo pobl Wcráin, y byddwn yn parhau i gynnal y rhai sydd angen lloches ddiogel yn ein gwlad, ac y byddwn yn cefnogi'r elusennau a'r sefydliadau hynny sy'n parhau i weithio i sicrhau ein bod ni mor lletygar ag y gallwn ni fod.”