Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi cymeradwyo dau redwr sy'n cwblhau her anhygoel i godi arian at achos sy'n agos at eu calon ar ôl eu cyfarfod ar strydoedd Abergele dros y penwythnos.
Roedd Sean a Steven McCormack yn gorffen eu taith gerdded oeri yn Abergele ddydd Sadwrn ar ôl cwblhau ras 10 cilometr pan wnaethon nhw ddod ar draws Darren.
Ar 8 Mehefin, bydd y tad a'r mab yn cwblhau eu 6ed digwyddiad yn y 12 mis diwethaf (2 ultra a 4 marathon) er cof am wraig Sean, Majella a'i nai Harri i godi arian ar gyfer y Sefydliad Iechyd Plant, Temple Street, Dulyn.
Y 6ed digwyddiad fydd y 100fed tro y bydd Sean wedi rhedeg pellter marathon (26.2 milltir) neu fwy.
Meddai Darren:
“Roedd hi'n bleser mawr cael cwrdd â Sean a Steven ar strydoedd heulog Abergele ddydd Sadwrn, ynghyd â Becky Johnson, oedd allan yn rhedeg gyda nhw.
“Hyd yma maen nhw wedi cwblhau pump o'u heriau ers mis Mehefin y llynedd a dydd Sadwrn byddant yn cwblhau eu chweched rhediad o 30 milltir o orffwysfa Harri yn Kentstown i Majella's yn Iniskeen.
“Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan ddywedodd Sean wrthyf y bydd wedi cwblhau 100 o farathonau ar ôl y digwyddiad ddydd Sadwrn – am gamp ryfeddol!
“Roedd yn dda cael sgwrs gyda nhw a darganfod beth wnaeth eu hysbrydoli i gwblhau'r her anodd hon.
“Roeddwn i’n falch o gwrdd â Becky hefyd, a gwblhaodd ei marathon cyntaf yn ddiweddar, camp wych arall.
“Pob lwc i Sean a Steven wrth redeg y penwythnos hwn ac rwy’n annog pobl i'w cefnogi trwy gyfrannu ar eu tudalen Just Giving lle gallwch chi ddarganfod mwy am eu rhesymau dros ymgymryd â'r her hefyd; https://www.justgiving.com/fundraising/mmmforh