Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am fethu gwrando ar gymunedau lleol a bwrw rhagddi i gau hanner ei doiledau cyhoeddus.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Conwy y byddai'n cau 19 o'i 40 o doiledau cyhoeddus ar 4 Medi 2024, er mwyn arbed costau.
Cafodd y cam hwn ei ohirio ar ôl i gynghorwyr bleidleisio o blaid argymell bod y cabinet yn darparu ystadegau pellach cyn ymgynghori ymhellach gyda chynghorwyr.
Yr wythnos hon, penderfynwyd bwrw rhagddi i gau'r toiledau.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Darren:
"Rwy'n hynod siomedig bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dal i wthio ymlaen i gau hanner ei doiledau cyhoeddus.
"Bydd y symudiad byrbwyll hwn ond yn atal ymwelwyr, ac yn gwneud cymunedau'n llai byw i deuluoedd lleol, a phobl oedrannus ac anabl.
"O'r eiliad y soniwyd am y toriadau hyn am y tro cyntaf, fe wnes i nodi fy ngwrthwynebiad gan annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ailystyried eu safbwynt.
"Mae'n drist iawn nad ydyn nhw wedi gwrando arna i a'r llu o drigolion sy'n gwrthwynebu'r cau yn gryf.
"Mae gan y sir boblogaeth uchel o drigolion oedrannus, a bydd y cau yma yn eu taro’n galed, heb sôn am y rhai sydd â phroblemau anymataliaeth. Heb os, bydd yn annog rhai rhag mentro allan ac yn arwain at deimladau o unigrwydd.
"Hefyd, mae’n ergyd galed i’n hymdrech i fod yn sir groesawgar i ymwelwyr os na allwn ni hyd yn oed ddarparu'r cyfleusterau sylfaenol hyn. Bydd yn atal pobl rhag dod yma, a fydd yn anffodus yn effeithio ar fusnesau lleol. Mae'n benderfyniad byrbwyll iawn sy'n methu ystyried yr effaith hirdymor y bydd hyn yn ei chael ar ein trefi.
"Er fy mod i’n gwerthfawrogi bod pob cyngor yn ceisio torri costau, nid cau toiledau cyhoeddus yw'r ateb."