Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog pobl i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB, arolwg bywyd gwyllt gardd mwyaf y byd.
Y llynedd, cyflwynodd 29,495 o unigolion a gwyddonwyr-ddinasyddion fel chi a fi eu hymatebion, a chyfrifwyd dros hanner miliwn o adar mewn gerddi, ar falconïau ac mewn parciau ledled Cymru.
I RSPB Cymru, mae hyn yn rhoi golwg amhrisiadwy ar iechyd poblogaethau adar mwyaf cyffredin Cymru. Eleni mae RSPB Cymru yn gobeithio y bydd dros 30,000 o bobl yn cymryd rhan yn yr arolwg.
I gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025, mae angen i bobl wylio'r adar yn eu gardd, ar eu balconi, neu yn eu gofod gwyrdd lleol am awr ar ryw adeg dros y tridiau. Dim ond yr adar sy'n glanio y dylen nhw eu cyfri, nid y rhai sy'n hedfan heibio.
Meddai Darren:
"Ers dechrau’r fenter yn 1979, mae’r digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd wedi dod yn ddigwyddiad gwyddoniaeth dinasyddion blynyddol poblogaidd, sy'n rhoi blas gwerthfawr i'r RSPB ar sefyllfa adar ein gardd yng Nghymru ac ar draws y DU. Dros y cyfnod hwnnw, mae 195 miliwn o adar wedi cael eu cyfri a bron i 12.1 miliwn o oriau wedi’u treulio yn gwylio ac yn cyfrif adar yr ardd.
"Drwy gymryd rhan yn Birdwatch, rydych chi'n helpu i greu cipolwg blynyddol ar sefyllfa bywyd adar ledled y DU.
"Rwy'n annog pobl i ymuno yn y digwyddiad eleni. Y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw mwynhau awr yn ymlacio ym myd natur, a dweud wrth yr RSPB am y nifer uchaf o bob rhywogaeth o adar rydych chi'n eu gweld ar unrhyw un adeg - nid y cyfanswm rydych chi'n ei weld yn yr awr.
"Gadewch i ni sicrhau mai’r digwyddiad Gwylio Adar eleni yw’r un mwyaf llwyddiannus hyd yma."
Eleni, mae gan RSPB Cymru neges ychwanegol ynghylch bwydo adar yr ardd, gan annog dilyn mesurau hylendid i atal clefydau rhag lledaenu.
Mae llawer o bobl o bob cwr o Gymru yn mwynhau bwydo'r adar yn eu gerddi ac mae rhai rhywogaethau wir yn elwa os rhowch chi fwyd ychwanegol allan ar eu cyfer, yn enwedig yn y gaeaf. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynyddol fod adar eraill yn dioddef effeithiau negyddol, fel lledaeniad clefydau ymhlith pincod.
Gall dilyn mesurau hylendid syml mewn gerddi lle mae bwyd a dŵr yn cael eu cynnig helpu i gadw ein hadar yn iach. Mae hyn yn cynnwys glanhau gorsafoedd bwydo a baddonau adar yn rheolaidd, symud gorsafoedd bwydo o amgylch yr ardd i atal bwyd rhag cronni neu i faw gasglu a monitro'r cyflenwad bwyd i sicrhau ei fod yn bodloni'r galw.
I gymryd rhan yn y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch