Mae Darren Millar, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth ym mhrisiau tocynnau rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn y Senedd, dywedodd Darren:
"Ychydig wythnosau yn ôl, codais fater anghyfartaledd prisiau rheilffordd rhwng y gogledd a’r de, lle mae cost tocyn unffordd neu docyn dwyffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd yn llai na hanner pris teithiau o hyd tebyg ar reilffordd y gogledd."
"Nid yw’n deg i deithwyr. Nid yw'n deg i unrhyw un sydd angen defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd. Rwyf am wybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’w cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r anghysondeb hwnnw."
Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates:
"O ran prisiau tocynnau rheilffordd, mae rhai yn cael eu rheoleiddio, ac nid yw eraill yn cael eu rheoleiddio. Rwy'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar system brisio deg a thryloyw iawn ar draws rhwydwaith y DU."
"Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o weithredwyr yng Nghymru, a gall y drefn brisiau fod yn wahanol iawn, yn dibynnu ar yr adeg o'r dydd, yn dibynnu ar y math o docyn, yn dibynnu ar y llwybr, yn dibynnu ar ble rydych chi'n cychwyn eich taith, boed hynny yng Nghymru neu y tu allan i Gymru.
"Hoffwn weld mwy o dryloywder a system llawer tecach o docynnau yn y dyfodol. Byddaf yn gweithio gydag aelodau cyfatebol Llywodraeth y DU i wneud hynny, yn ogystal â gyda Trafnidiaeth Cymru."
Wrth sôn am hyn, dywedodd Darren:
"Mae pobl yng Ngogledd Cymru yn aml yn teimlo fel eu bod yn cael bargen waeth na phobl yn y De. Dylai'r gwahaniaeth hwn fod yn hawdd mynd i'r afael ag ef, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am Trafnidiaeth Cymru a Masnachfraint Cymru a'r Gororau."
"Rwyf am weld ymrwymiadau cadarn a chamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau fel y rhain, ac i helpu pobl yng Ngogledd Cymru i deimlo bod eu Llywodraeth yn eu gwasanaethu nhw, nid pobl y de yn unig."