Mae, Darren Millar, yr AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid wedi galw eto ar Lywodraeth Lafur Cymru i adolygu ei chanllawiau ailgylchu, gan dynnu sylw at “haf o anniddigrwydd” Sir Ddinbych o ganlyniad i’r llanast llwyr wrth gyflwyno ei system ailgylchu newydd.
Yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dywedodd Darren wrth Brif Weinidog Cymru am yr anhrefn yn y sir ers cyflwyno'r system newydd ddechrau'r mis hwn, gan bwysleisio nad yw biniau rhai preswylwyr wedi’u casglu ers 5 wythnos.
Bythefnos yn ôl yn y Senedd, pwysodd Darren ar Lywodraeth Lafur Cymru i hyrwyddo systemau ailgylchu cartrefi symlach wrth symud ymlaen – fel hen system Sir Ddinbych.
Wrth holi'r Prif Weinidog heddiw, ailadroddodd yr alwad hon.
Yn ei gwestiwn yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd yn y Gogledd, dywedodd:
“Un o'r pethau sydd ddim yn helpu'r amgylchedd yn y Gogledd yw'r sefyllfa echrydus sy'n wynebu pobl yn Sir Ddinbych.
“Fel y gwyddoch, mae'r cyngor dan arweiniad Llafur yn Sir Ddinbych wedi goruchwylio cyflwyno system ailgylchu newydd sy’n gwbl drychinebus am gost o filiynau i drethdalwyr, sy’n golygu nad yw gwastraff rai preswylwyr wedi’i gasglu am hyd at bum wythnos. Mae'n arwain, a dweud y gwir, at haf o anfodlonrwydd yn Sir Ddinbych, gyda sbwriel yn pentyrru ar strydoedd lleol, ac mae rhai ohonyn nhw, mae arna i ofn, yn atgoffa rhywun erbyn hyn o Brydain a oedd yn cael ei rhedeg gan Lafur yn y 1970au.
“Mae hyn yn gwbl annerbyniol, mae'n arwain at blâu fel llygod, llygod mawr a gwylanod yn cael modd i fyw. Roedd y system ailgylchu biniau glas flaenorol yn Sir Ddinbych yn gweithio’n dda iawn, roedd ganddi raddfeydd boddhad rhagorol a chyflawnodd rai o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru, yn uwch na'r rhai a gyflawnwyd gan y system ailgylchu newydd mewn siroedd cyfagos eraill.
“Felly, a wnewch chi edrych eto ar ganllawiau ailgylchu Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru ac annog systemau ailgylchu symlach, fel y system biniau glas, sy'n gweithio ac yn gwneud bywyd yn hawdd i drigolion lleol?”
Yn ei ymateb amddiffynnodd y Prif Weinidog Gyngor Sir Ddinbych gan ddweud “maen nhw’n bod yn onest ac yn gwrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud am rai o'r heriau yn y system”.
Ychwanegodd:
“Rwy'n credu y gallwn fod yn falch o'r hyn rydyn ni eisoes wedi'i wneud yn y gorffennol, ac yn fwy balch fyth o gam nesaf y daith, oherwydd nid mater o ailgylchu yn unig yw hyn, mae’n ymwneud â'r gwelliant y bydd yn ei wneud i'n heconomi hefyd.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Dydw i ddim yn credu bod unrhyw breswylydd yn Sir Ddinbych yn hapus ar hyn o bryd gyda'r ffordd yr aed i’r afael â hyn, ac yn sicr dyw balch ddim yn air rwy'n ei glywed ganddyn nhw!”