Clwyd West MS and Shadow Minister for North Wales, Darren Millar, has called for a Statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary with responsibility for climate change, on Denbighshire County Council’s “very poorly handled roll-out” of the new recycling system.
Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi galw am Ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd, ar "gyflwyniad gwael iawn" y system ailgylchu newydd.
Wrth siarad yn y Senedd yr wythnos hon, cododd Darren bryderon bod gwastraff ailgylchu wedi'i ddidoli gan drigolion mewn rhai rhannau o'r sir yn cael ei gyd-gymysgu yn ôl eto gan y rhai sy'n casglu'r gwastraff.
Pwysleisiodd fod hyn yn mynd yn gwbl groes i dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a gofynnodd pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi'r cyngor fel y gellir mynd i’r afael â’r methiannau yn y system.
Meddai:
“Testun balchder i ni yw cyflawniad gwych Cymru o ran cyfraddau ailgylchu, ond fe geir rhai pryderon yn fy etholaeth i mewn rhannau o sir Ddinbych ynghylch cyflwyno'r system ailgylchu newydd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl wahanu eu gwastraff wrth ymyl y ffordd.
“Mae hynny'n peri penbleth i'm hetholwyr o ran y gofyn iddyn nhw wahanu'r gwastraff dim ond iddo gael ei gymysgu yn ei ôl ar gefn y lorïau sy'n rowlio trwy eu cymunedau nhw.
“Yn amlwg, Llywodraeth Cymru sydd â'r cyfrifoldeb pennaf wrth sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gwneud gwaith da, ac maen nhw wedi buddsoddi llawer yn y cynllun newydd hwn yn sir Ddinbych. Felly, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog ynglŷn â chyfraniad Llywodraeth Cymru gyda Chyngor Sir Ddinbych i roi cefnogaeth wrth weinyddu'r system hon yn iawn unwaith ac am byth fel nad yw pobl yn gorfod dioddef y profiadau annifyr hyn o weld eu gwastraff yn cael ei gymysgu unwaith eto ar ôl iddyn nhw fynd i'r drafferth i'w wahanu?
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes Llywodraeth Cymru):
“Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol ac mae ef wedi cydnabod bod mater yn bodoli o hyd o ran gweithredu i gyflwyno'r trefniadau ailgylchu newydd gan Gyngor Sir Ddinbych.”
“Rwy'n credu fy mod i wedi cael sicrwydd mai digwyddiad untro oedd yr adroddiadau diweddar o wastraff bwyd yn cael ei gymysgu gyda deunyddiau eraill i'w hailgylchu.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Cyflwynwyd y cynllun hwn ddechrau mis Mehefin ac er bod pawb yn disgwyl problemau cychwynnol gyda newid ar y raddfa hon, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn rhagweld y byddem ni’n dal i fod yn profi'r methiannau dros dri mis yn ddiweddarach.
"Mae'r broses o gyflwyno’r system newydd wedi bod yn llanast llwyr ac mae'n costio'n ddrud i drethdalwyr – mae’r costau ychwanegol rhwng £50,000 a £60,000 yr wythnos ar hyn o bryd.
"Does dim esgusodion o gwbl dros lefel y smonach rydyn ni’n dal i'w weld ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cyngor Sir Ddinbych yn llawn i'w helpu i unioni'r methiannau cyn gynted â phosib."