Gan gyfeirio at archwiliad Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyrff y GIG (2023-24), a ddatgelodd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyfrifol unwaith eto am wariant afreolaidd heb ganiatâd am yr ail flwyddyn yn olynol, a hynny wrth wneud taliadau i gyn-aelod gweithredol dros dro o'r Bwrdd, dyma oedd gan Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig i’w ddweud:
"Mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael trefn ar bethau.
"Mae pobl yn y Gogledd wedi cael llond bol ar glywed am y miliynau sydd ar goll, ymchwiliadau i achosion o dwyll a chyfarwyddwyr y GIG sy'n cael eu gordalu. Rydyn ni eisiau gweld bwrdd iechyd sy'n darparu gofal iechyd amserol o ansawdd uchel, nad yw’n gwastraffu arian trethdalwyr.
"O ystyried nad yw Llywodraeth Cymru fel pe bai’n gallu cyflawni hyn, mae angen ymchwiliad annibynnol arnom nawr i fynd at wraidd y materion hyn unwaith ac am byth."