Mae AS Gorllewin Clwyd a Gweinidog yr Wrthblaid dros y Gogledd, Darren Millar, wedi herio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol dros “doriadau creulon” Llywodraeth y DU i bensiynwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i'r adwy a sefydlu ei lwfans tanwydd gaeaf ei hun.
Holodd Darren Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd yr wythnos diwethaf am daliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr a gofynnodd pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r newidiadau, a fydd yn gadael oddeutu 30,000 o bensiynwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar eu colled y gaeaf hwn.
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai “derbyn Credyd Pensiwn yw'r allwedd i ddatgloi taliadau tanwydd gaeaf, ac rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hynny”.
Ond, doedd Darren ddim yn hapus gyda'i hateb a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn “camu i’r adwy i sefydlu ei thaliad lwfans tanwydd gaeaf ei hun”.
Meddai:
“Dydw i ddim wedi fy mhlesio o gwb gyda'r ymateb hwnnw, a dyw pobl yn fy etholaeth ddim chwaith. Mae 30,000 o bensiynwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn mynd i golli'r taliad tanwydd gaeaf eleni ac nid dyma'r newid a addawodd y Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol diwethaf y DU. Mae'n doriad creulon a fydd yn effeithio ar lawer o bobl fregus ledled Cymru.
“Gofynnwyd i chi eisoes pam nad yw Llywodraeth Cymru’n camu i’r adwy i sefydlu ei thaliad lwfans tanwydd gaeaf ei hun; mae’r gallu gennych chi i allu gwneud hynny. Mae'n ymddangos bod gennych chi ddigon o arian ar gyfer pethau eraill nad yw pobl yn eu hystyried yn flaenoriaeth, felly pam na allwch chi fuddsoddi arian yn hyn er mwyn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed?
“Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pam nad ydych chi’n codi llais dros Gymru? Rydych chi'n dweud eich bod chi wedi ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth y DU. Pam nad ydych chi wedi bod ar y ffôn, yn mynnu cyfarfod gyda'r Gweinidogion hyn, er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i amddiffyn y bobl fregus hyn yn ein hetholaethau'r gaeaf hwn? I fod yn onest, rydych chi'n dechrau edrych yn fwy a mwy crintachlyd ar hyn o bryd, oherwydd y ffordd rydych chi'n ymdrin â’r sefyllfa hon.”
Yn ddiweddarach yn y cyfarfod, pleidleisiodd ASau Llafur yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i achub taliadau tanwydd gaeaf.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Mae Llafur yn parhau i siarad am hyrwyddo Credyd Pensiwn, ond pe bai pob un o'r 880,000 o bensiynwyr cymwys yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gallai'r Trysorlys wynebu bil o £3.8 biliwn, sy'n llawer mwy na'r arbediad o £1.4 biliwn o gael gwared ar Daliad Tanwydd y Gaeaf heb brawf modd.
“Hefyd, amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled oherwydd eu bod ond £500 dros y trothwy incwm i hawlio Credyd Pensiwn!
“Mae'n benderfyniad chwerthinllyd ac amhoblogaidd iawn ac mae angen ei adolygu ar frys cyn i'r tywydd oer gyrraedd.”