Heddiw, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am ymestyn yr amddiffynfeydd môr a'r gwaith llifogydd sy'n cael ei wneud ym Mae Cinmel i gynnwys draenio ar stad Sandy Cove.
Ar 9 Ebrill, bu'n rhaid i drigolion ardal Sandy Cove ym Mae Cinmel adael eu cartrefi oherwydd llifogydd a achoswyd gan dywydd garw. Nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddioddef.
Yr wythnos hon yn y Senedd, gofynnodd Darren pa gamau pellach all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod eiddo'n cael ei ddiogelu yn y dyfodol.
Meddai:
“Un o'r heriau yn fy etholaeth i yw bod ardal Sandy Cove ym Mae Cinmel wedi cael ei tharo gan lifogydd ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi, a hynny fel y dylai, yn yr amddiffynfeydd môr yn ardal Bae Cinmel yn y flwyddyn i ddod, gyda disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Medi. Ond, yn anffodus, er y bydd hynny'n helpu i amddiffyn trigolion Sandy Cove rhag llifogydd, ni fydd yn datrys y problemau draenio sylweddol sydd ar stad Sandy Cove o ganlyniad i beidio â mabwysiadu’r priffyrdd a'r ffyrdd ar y stad honno.
“Felly, hoffwn weld yr amddiffynfeydd môr a'r gwaith llifogydd sy'n digwydd ym Mae Cinmel yn cael ei ymestyn i gynnwys y draenio ar y stad honno, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn i weld a oes unrhyw gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn helpu'r trigolion.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Roedd yr hyn ddigwyddodd yn gynharach eleni yn Sandy Cove yn frawychus iawn i'r holl drigolion yr effeithiwyd arnyn nhw. Nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddioddef llifogydd ac mae’n ddealladwy eu bod nhw eisiau i bob cam gael ei gymryd i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu taro gan lifogydd yn y dyfodol. Felly, mae'n hanfodol bod draenio’n cael ei gynnwys yn y gwaith atal llifogydd hwn.”