Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi galw o'r newydd heddiw am y wybodaeth ddiweddaraf am yr addewid am Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych y mae mawr ei angen.
Wrth holi'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd heddiw, soniodd Darren am y pwysau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn ei wynebu ar hyn o bryd a phwysleisiodd y byddai ysbyty newydd, ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl, yn helpu i'w leddfu.
Gofynnodd i Vaughan Gething pam fod pobl Gogledd Sir Ddinbych yn dal i aros am y cyfleuster newydd hwn 11 mlynedd yn ddiweddarach, pan fo buddsoddiad wedi'i wneud bryd hynny mewn ysbyty newydd yn y De.
Meddai:
“O dan Lafur, mae'r GIG yn y Gogledd ar ei liniau: mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers 2015; mae methiant wedi bod i gyflawni gwelliannau, sydd wedi arwain at niwed i gleifion; mae cleifion yn aros yn hirach nag mewn rhannau eraill o'r DU am lawdriniaethau a thriniaethau; ac rydyn ni i gyd yn gwybod mai Ysbyty Glan Clwyd, sy'n gwasanaethu pobl Conwy a Sir Ddinbych, sydd â'r perfformiad adran frys gwaethaf yn y wlad, gydag un o bob pedwar o bobl yn aros 12 awr neu fwy yn yr adran frys. Mae'n sefyllfa gwbl annerbyniol.
“Nawr, mewn ymgais i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, 11 mlynedd yn ôl, addawodd Llywodraeth Cymru adeiladu ysbyty newydd sbon yn y Rhyl i wasanaethu'r llain arfordirol, gwella mynediad at wasanaethau'r GIG a lleddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd.
“Dylai fod wedi agor yn 2016, ond dyw’r adeiladu ddim wedi dechrau hyd yma, Brif Weinidog, ac eto, ers hynny, ers 2013, rydych chi wedi agor ysbyty newydd sbon yn y De.
“Pam fod y Gogledd wastad yn ail orau i’r De o dan eich Llywodraeth chi? A phryd y bydd pobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn cael y cyfleuster hanfodol hwn sydd ei angen ar gleifion?”
Yn ei ymateb, methodd y Prif Weinidog â rhoi unrhyw syniad ynghylch os/pryd y bydd ysbyty newydd ar gyfer y Rhyl yn cael ei ddarparu.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Mae gwir angen yr ysbyty hwn, ac eto mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Lafur Cymru ar frys i'w ddarparu, a darparu'r gwasanaethau iechyd mae pobl Gogledd Sir Ddinbych ei angen ac yn ei haeddu.
“Mae eu hymatebion di-hid pan wyf wedi codi hyn dro ar ôl tro dros y blynyddoedd wedi bod yn warthus – mae’n teimlo fel nad yw pobl y Gogledd yn bwysig.
“Mae angen iddyn nhw roi’r gorau i ganolbwyntio ar Gaerdydd yn unig a dechrau cyflawni ar gyfer pobl ledled Cymru gyfan.”